Neidio i'r prif gynnwy

Hyb Sgiliau

Meddyg benywaidd yn ymweld â dyn oedrannus ac yn rhoi cymorth iddo

Mae un lle i fynd am hyfforddiant a chefnogaeth i unrhyw un sydd am ddechrau gyrfa yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol ym Mhowys.

Mae Hyb Sgiliau Iechyd a Gofal Powys yn gallu cynnig hyfforddiant, rhoi cyngor ar eich disgwyliadau o ran gwaith a gyrfa, helpu i’ch paratoi chi at waith, gyda chymorth mentora ar hyd y ffordd i’ch cyfeirio chi at brofiad gwaith a rolau gwirfoddoli.

Mae’r hyb yn cael ei drefnu gan Grŵp Colegau NPTC ar ran Academi Iechyd a Gofal Powys ac yn cael ei noddi gan Arwain, Rhaglen LEADER ym Mhowys.*

I wybod mwy, ffoniwch  0845 4086 253, e-bostiwch pathwaystraining@nptcgroup.ac.uk neu ewch i wefan Grŵp Colegau NPTC: Powys Health and Care Skills Hub - NPTC Group of Colleges

Sefydlwyd yr Academi Iechyd a Gofal gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys sy’n cynnwys cyrff cyhoeddus a chynrychiolwyr eraill gan gynnwys Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys sy’n gweithio gyda’i gilydd trwy’r academi i wella mynediad at addysg, hyfforddiant a datblygu a gyrfaoedd o fewn y sector.

Grŵp Colegau NPTC yw un o’r darparwyr addysg bellach mwyaf yng Nghymru sy’n cynnig amryw o gyrsiau sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd, ar draws naw campws sy’n cynnwys Y Drenewydd a Cholegau Bannau Brycheiniog.

Rhannu:
Cyswllt: