7 Hydref 2025
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra tra bod gwaith cynnal a chadw hanfodol yn digwydd yng Nghanolfan Geni'r Trallwng.
Nid yw apwyntiadau cynenedigol yn cael eu heffeithio. Mynychwch fel arfer os gwelwch yn dda.
Os yw eich genedigaeth i fod i ddigwydd yng Nghanolfan Geni’r Trallwng yn ystod mis Hydref, yna bydd eich bydwraig yn cysylltu â chi i drafod eich opsiynau geni, gan gynnwys genedigaeth gartref neu ganolfan eni amgen ym Mhowys.
Rydym yn mawr gwerthfawrogi eich amynedd wrth i ni gyflawni'r gwelliannau hanfodol hyn. Rydym yn disgwyl eu cwblhau erbyn 21 Hydref 2025. Mae ein tîm bydwreigiaeth wedi ymrwymo i barhau i gynnig gofal diogel o ansawdd uchel i chi, felly cysylltwch â'ch bydwraig os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau mamolaeth ym Mhowys ar gael o'n gwefan drwy sganio'r cod QR isod neu ymweld â biap.gig.cymru/mamolaeth