Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu Arwyr Lleol GIG Powys

Wrth i'r GIG nesáu at ei ben-blwydd yn 75 oed ar 5 Gorffennaf 2023, rydym yn cynnig cyfle i gynghorau tref a chymunedau ledled Powys ddathlu Arwyr Lleol GIG Powys yn eich cymuned.

Cysylltwch â powys.engagement@wales.nhs.uk erbyn 30 Mehefin 2023 os hoffech gymryd rhan.

Beth yw cynllun Arwyr Lleol GIG Powys?

Cafodd cynllun Arwyr Lleol GIG Powys ei lansio i nodi 75 mlynedd ers sefydlu'r GIG ar 5 Gorffennaf 2023.

Mae'n cynnig gwobr Arwr Lleol GIG Powys i'ch Cyngor Tref neu Gymuned i'w rhoi i unigolyn neu dîm y GIG sydd o fudd i'ch cymuned leol.

Pryd dylem gyflwyno ein Gwobr Arwr Lleol GIG Powys?

Mae Arwyr Lleol GIG Powys yn rhan o ben-blwydd y GIG yn 75 oed eleni. Felly, ein nod yw eich cefnogi chi i ddathlu pobl wych yn y GIG rhwng Mehefin a Rhagfyr 2023.

Pwy allwn ni ei anrhydeddu fel Arwr Lleol GIG Powys?

Chi sy’n gallu dewis eich Arwyr Lleol GIG Powys. Gallai hyn fod yn:

  • Rhywun sy'n gweithio yn y GIG sy'n byw yn ardal eich tref/cyngor cymuned, neu
  • Unigolyn neu dîm sy'n darparu gwasanaeth GIG i bobl o fewn ardal eich cyngor tref/cymuned
  • Unigolyn yn eich cymuned sydd wedi ymddeol o wasanaeth hir yn y GIG yn ddiweddar.

Sut ddylen ni ddewis ein Harwr Lleol GIG Powys?

Gallwch chi ddewis sut i wneud hyn. Er enghraifft:

  • Gallwch chi benderfynu fel grŵp o Gynghorwyr.
  • Gallwch wahodd enwebiadau gan eich cymuned leol (e.e. hysbysfyrddau, gwefan y cyngor, cyfryngau cymdeithasol, ar lafar).
  • Os oes gennych chi gynllun gwobrwyo lleol sy'n cael ei gynnal yn ystod 2023, gallwch ychwanegu categori Arwyr Lleol GIG Powys
  • Gallwch drefnu digwyddiad Te Mawr y GIG i ddathlu pen-blwydd y GIG yn 75 oed, a gofynnwch i'r cyfranogwyr enwebu eu Harwyr Lleol GIG Powys. Gallwch hefyd ddefnyddio'r digwyddiad hwn i godi arian i elusennau lleol fel Cynghrair y Cyfeillion neu elusen BIAP.

Defnyddiwch y dolenni isod i gael gwybod mwy am De Mawr y GIG ac Elusen BIAP.

Te Mawr y GIG: www.nhsbigtea.co.uk

Elusen BIAP: justgiving.com/pthbcharity a biap.gig.cymru/elusen

Sut ydyn ni'n gallu cymryd rhan?

Cysylltwch â powys.engagement@wales.nhs.uk erbyn 30 Mehefin 2023 os hoffech gymryd rhan.

Byddwn yn anfon gwobr Arwr Lleol GIG Powys atoch i gyflwyno i unigolyn neu dîm y GIG yn eich cymuned.

Pan fyddwch yn cyflwyno eich gwobr byddem yn ddiolchgar iawn i glywed rhagor o fanylion am eich arwr lleol gan gynnwys lluniau - ac os ydych yn ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol gallwch dagio @BIAPiechyd ar Twitter, @PTHBhealth ar Instagram, a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar Facebook. Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am gynllun Arwyr Lleol GIG Powys, yna cysylltwch â’n Tîm Ymgysylltu a Chyfathrebu yn powys.engagement@wales.nhs.uk neu ewch i biap.gig.cymru/gig75

Os oes angen mwy o wybodaeth am godi arian i Elusen BIAP, cysylltwch â PTHB.charity@wales.nhs.uk

22/06/23
Taith gerdded Carwch eich Ysgyfaint i'w chynnal o gwmpas llyn Llandrindod

Oes gennych chi, neu rywun rydych chi’n adnabod, gyflwr ar yr ysgyfaint?Ymunwch â ni ar y 6ed o Orffennaf 2023, o 10.30yb i fynd am dro hamddenol o amgylch llyn Llandrindod.