Neidio i'r prif gynnwy

Taith gerdded Carwch eich Ysgyfaint i'w chynnal o gwmpas llyn Llandrindod

Oes gennych chi, neu rywun rydych chi’n adnabod, gyflwr ar yr ysgyfaint?

Ymunwch â ni ar y 6ed o Orffennaf 2023, o 10.30yb i fynd am dro hamddenol o amgylch llyn Llandrindod.

Bydd te, coffi a diodydd ysgafn yn cael eu darparu.

Dewch â ffrindiau, teulu a’r ci i fwynhau taith gerdded ysgafn yn yr awyr iach.

Beth am ddod â phicnic a mwynhau diwrnod cyfan hamddenol?

Cwrdd yn:

Lakeside Café

Rhodfa'r Tywysog

Llandrindod

LD1 5HU

Bydd gwybodaeth ar gael ar y diwrnod am iechyd cyffredinol yr ysgyfaint.

Bydd y teithiau cerdded yn gadael y caffi am:

(Does dim rhaid ymuno â’r daith gerdded)

  • 11:00
  • 13:00
  • 15:00

 

Am fwy o fanylion, cysylltwch â Kimberley Lewis: 07500 910413

 

Rhyddhawyd: 22/06/2023

Rhannu:
Cyswllt: