Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â GIG 75

Mae 5 Gorffennaf 2023 yn nodi 75 mlynedd o'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae'r GIG yng Nghymru yn cyffwrdd bywydau pob un ohonom, a heddiw ni allwn ddychmygu bywyd hebddo. Wrth i ni nodi 75 mlynedd o'r GIG, rydyn ni'n edrych yn ôl ar yr hyn y mae’r sefydliad wedi’i gyflawni, yn ogystal ag edrych ymlaen at y cyfleoedd sydd gennym i siapio'r dyfodol. 75 mlynedd yn ddiweddarach, mae egwyddorion sylfaenol y GIG yn parhau.

75 Mlynedd o'r GIG

Pan sefydlwyd y GIG gan yr Aelod Seneddol o Gymru, Aneurin Bevan, ar 5 Gorffennaf 1948, wedi'i ysbrydoli gan Gymdeithas Cymorth Meddygol Gweithwyr Tredegar, hon oedd y system iechyd gyffredinol gyntaf i fod ar gael i bawb, a hynny am ddim pryd bynnag a lle bynnag y bo'i angen. Mae'r egwyddorion hynny'n parhau i fod mor berthnasol heddiw ag yr oeddent yn y blynyddoedd ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ac maent yn parhau i gael eu gwerthfawrogi.

Ers ei sefydlu, mae'r GIG wedi arloesi ac addasu i ddiwallu anghenion pob cenhedlaeth, gan roi cleifion wrth galon popeth y mae'n ei wneud bob amser.

  • Mae'r GIG yng Nghymru yn cynnal tua 360 mil o ymgynghoriadau â chleifion bob mis ym maes gofal eilaidd yn unig (heb gynnwys apwyntiadau meddygon teulu na diagnosteg)
  • Mae 79 o fabanod yn cael eu geni bob dydd yng Nghymru / un enedigaeth bob 18 munud
  • Ar gyfartaledd mae dros 8,500 o welyau’r GIG yn cael eu defnyddio yng Nghymru bob dydd
  • Yn y 12 mis diwethaf, dechreuodd mwy na 20,000 o gleifion ar driniaeth canser yng Nghymru
22/06/23
Taith gerdded Carwch eich Ysgyfaint i'w chynnal o gwmpas llyn Llandrindod

Oes gennych chi, neu rywun rydych chi’n adnabod, gyflwr ar yr ysgyfaint?Ymunwch â ni ar y 6ed o Orffennaf 2023, o 10.30yb i fynd am dro hamddenol o amgylch llyn Llandrindod.