Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth ar amseroedd aros

Gwybodaeth gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys ar amseroedd aros Gofal wedi'i Gynllunio

Diweddarwyd diwethaf 27 Mehefin 2025

O ddechrau mis Gorffennaf 2025, lle bynnag yr ydych yn byw ym Mhowys byddwch yn derbyn triniaethau gofal wedi'i gynllunio (claf mewnol ac achos dydd) yn seiliedig ar fesurau amser aros GIG Cymru. ​

Cyn Gorffennaf 2025, roedd yr holl ofal wedi'i gynllunio yng Nghymru yn cael ei ddarparu yn seiliedig ar fesurau amser aros GIG Cymru, a'r holl ofal wedi'i gynllunio yn Lloegr yn cael ei ddarparu yn seiliedig ar fesurau amser aros GIG Lloegr.​

NI fydd y newid hwn yn cynnwys:​

  • Atgyfeiriadau canser​

  • Atgyfeiriadau brys ac mewn argyfwng​

  • Apwyntiadau i bobl dan 18 oed​

  • Pobl sy'n byw y tu allan i Bowys (gan gynnwys os ydych chi wedi cofrestru gyda meddyg teulu ym Mhowys)​

  • Apwyntiadau dilynol a'ch gofal parhaus ar gyfer cyflyrau hirdymor (e.e. diabetes)​

NI fydd y newid hwn yn cynnwys cleifion allanol gofal wedi'i gynllunio (newydd neu ddilynol) ar hyn o bryd, er bod hyn yn cael ei adolygu'n barhaus.​

Os oes gennych ddyddiad eisoes ar gyfer eich apwyntiad neu driniaeth, yna nid yw hyn yn cael ei effeithio. Mynychwch eich apwyntiad fel arfer.​

Nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau. Byddwch yn parhau ar y rhestr aros a bydd yr ysbyty yn cysylltu â chi i drefnu eich apwyntiad. Nid oes angen cysylltu â’ch darparwr ysbyty na'ch meddygfa i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pryd y bydd eich apwyntiad yn cael ei gynnal neu i gyflymu'ch apwyntiad oni bai bod eich symptomau wedi newid yn sylweddol. ​

Nid yw hwn yn benderfyniad rydyn ni wedi'i wneud yn ysgafn, ac mae'n adlewyrchu'r ffordd rydyn ni'n cael ein hariannu. Mae'n rhaid i ni gymryd camau i fyw o fewn ein modd, neu byddwn yn adeiladu anawsterau ariannol mwy ar gyfer y dyfodol.​

 
 

Rhagor o wybodaeth:

Rhannu:
Cyswllt: