Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth ar amseroedd aros yn Lloegr

Gwybodaeth gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys ar amseroedd aros Gofal wedi'i Gynllunio

Diweddarwyd diwethaf 28 Ebrill 2025

Yn hwyrach eleni, bydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cyflwyno rhai newidiadau i’r ffordd rydym yn comisiynu eich apwyntiadau a gweithdrefnau wedi’u cynllunio gan ysbytai yn Lloegr.

Bydd y newidiadau hyn yn golygu, ni waeth ble rydych yn byw ym Mhowys, byddwch yn derbyn gofal wedi'i gynllunio yn seiliedig ar fesurau amseroedd aros GIG Cymru, yn hytrach na’n seiliedig ar fesurau amseroedd aros GIG Lloegr.

Rydyn ni’n cynllunio bydd y mesurau hyn ar waith o Orffennaf 2025.

Yn y cyfamser, nid oes unrhyw newidiadau i apwyntiadau a gweithdrefnau a drefnwyd. Gofynnwn i chi barhau i fynychu eich apwyntiadau a gweithdrefnau yn ôl yr arfer.

Rydyn ni’n gweithio gyda darparwyr yn GIG Lloegr i ddatblygu cynlluniau sy’n fwy manwl. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael fis Mehefin.

Nid oes angen cysylltu â’ch darparwr ysbyty na'ch meddygfa i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pryd y bydd eich apwyntiad yn cael ei gynnal neu i gyflymu'ch apwyntiad, oni bai bod eich symptomau wedi newid yn sylweddol. Byddwch yn parhau ar y rhestr aros a bydd yr ysbyty yn cysylltu â chi i drefnu eich apwyntiad.

Nid yw hwn yn benderfyniad rydyn ni wedi'i wneud yn ysgafn, ac mae'n adlewyrchu'r ffordd rydyn ni'n cael ein hariannu. Mae'n rhaid i ni gymryd camau i fyw o fewn ein modd, neu byddwn yn adeiladu anawsterau ariannol mwy ar gyfer y dyfodol.

Rhagor o wybodaeth:

Rhannu:
Cyswllt: