Rydym bob amser yn ceisio sicrhau bod y cynnwys ar ein gwefan yn hygyrch. Fodd bynnag, rydym wedi asesu y byddai sicrhau bod pob dogfen a gyhoeddir ar ein gwefan yn bodloni'r ddeddfwriaeth hygyrchedd yn faich anghymesur.
Gwyddom nad yw rhai dogfennau PDF, Excel a Word yn gwbl hygyrch ac mae'n debygol na fydd dogfennau sy'n cael eu lanlwytho yn y dyfodol ac sydd yn y fformat hwn yn gwbl hygyrch. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn gweithio arno.
Rydym wedi asesu y byddai sicrhau bod pob dogfen a gyhoeddir ar ein gwefan yn bodloni'r ddeddfwriaeth hygyrchedd yn faich anghymesur.
Mae rhannu gwybodaeth hygyrch yn bwysig i ni. Rydym wedi ymrwymo i wneud dogfennau sy'n ymwneud â gofal cleifion a darparu ein gwasanaethau'n hygyrch. Mae proses eisoes ar waith ar gyfer hyn.
Byddwn bob amser yn gwneud gwybodaeth a dogfennau sy'n hanfodol i ddarparu gofal i gleifion yn hygyrch.
Mae'r rhan fwyaf o'r wybodaeth ar ein gwefan eisoes ar gael mewn fformat hygyrch.
Mae ein hasesiad yn edrych ar ddogfennau PDF, Excel a Word nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau a gofal cleifion. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ein hadroddiad a'n cyfrifon blynyddol, papurau byrddau cyhoeddus, yn ogystal â rhai polisïau, gweithdrefnau, strategaethau, cynlluniau ac adroddiadau. Nid yw'r ffeiliau hyn yn gyson yn bodloni safonau hygyrchedd fel:
Rydym yn parhau i wneud gwelliannau cynyddrannol i hygyrchedd unrhyw fersiynau newydd o'r dogfennau hyn. Mae hyn yn cynnwys:
Fodd bynnag, ni allwn warantu hygyrchedd llawn ar hyn o bryd. Mae hyn yn rhannol oherwydd fformat data ariannol ac adroddiadau perfformiad yn ogystal â chymhlethdodau rhywfaint o'r wybodaeth.
Nid yw'r gofynion hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Nid ydym yn bwriadu trwsio unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018, er enghraifft Papurau'r Bwrdd a Phwyllgorau, polisïau a dogfennau gweithdrefn y Bwrdd Iechyd neu ddogfennau statudol megis Adroddiadau Blynyddol.
Y manteision o wneud y dogfennau hyn yn dudalennau HTML hygyrch yw:
Ein hasesiad o'r baich o wneud y dogfennau hyn yn dudalennau gwe HTML hygyrch yw:
Yn berthnasol i'r penderfyniad hwn hefyd yw:
Credwn y byddai trosi dogfennau, lle nad oes llawer o dystiolaeth o alw, yn cynrychioli baich anghymesur ar ein bwrdd iechyd oherwydd yr amser staff y byddai'n ei gymryd a'r costau cysylltiedig.
O dan y cyfyngiadau ariannol presennol, ni ellir cyfiawnhau talu i asiantaeth allanol i wneud y dogfennau hyn yn hygyrch dros ofynion gwasanaeth hanfodol eraill.
Bydd ein holl ddefnyddwyr yn elwa o sicrhau bod ein gwefan a'n gwybodaeth ar-lein yn hygyrch, felly canolbwyntio ein hadnodd cyfyngedig ar gynnal y cynnwys hygyrch a ddefnyddir fwyaf ar ein gwefan a sicrhau bod dogfennau newydd yn hygyrch lle mae eu hangen arnynt ar gyfer gwasanaethau hanfodol neu bobl ag anableddau yw ein blaenoriaeth.
Paratowyd yr asesiad hwn ym mis Medi 2023.