Neidio i'r prif gynnwy

Canmoliaethau

Bydd canmoliaeth yn cael ei rhannu gyda'r adran a'r staff dan sylw a gellir ei chyhoeddi'n ehangach, gyda’ch caniatâd.

Gallwch rannu eich canmoliaeth wyneb yn wyneb, dros y ffôn, trwy lythyr, dros e-bost (concerns.qualityandsafety.pow@wales.nhs.uk) neu’n syml drwy ddilyn y ddolen isod.

Gallwch ddweud wrthym eich hun, neu ofyn i gynrychiolydd weithredu ar eich rhan er enghraifft, gofalwr, Cynrychiolydd o’r Cyngor Iechyd Cymuned neu Aelod Seneddol.

Os ydych yn defnyddio’r ddolen, nodwch gymaint o fanylion â phosibl am eich profiad, pwy rydych yn rhannu’r ganmoliaeth amdano a’r adran neu wasanaeth. Gallwch wneud hyn trwy ddefnyddio’r blwch testun agored yn y ddolen. Os yw’n hysbys, nodwch y wybodaeth ganlynol:
 
•   Dyddiad, amser a lleoliad eich profiad
•   Enwau’r staff a oedd yn rhan (os yw’n hysbys)
•   Manylion eich canmoliaeth

Gallwch rannu canmoliaeth ar-lein yma.

Diolch am gymryd yr amser i rannu adborth gyda ni.

 

Oes gennych chi gŵyn neu bryder? Ewch i'n adran Cwynion a Gweithio i Wella.

Rhannu:
Cyswllt: