Ein nod yw darparu’r gofal a’r driniaeth orau bosibl. Mae’r mwyafrif helaeth o bobl yn hapus â’r gofal iechyd y maen nhw’n ei dderbyn gennym ni, ond weithiau efallai nad ydy pethau’n mynd cystal â’r disgwyl. Pan fydd hynny’n digwydd, mae angen i ni ddarganfod beth aeth o’i le er mwyn sicrhau bod pethau’n gwella.
Gallwch chi ddweud wrthym ni eich hun neu ofyn i gynrychiolydd ddweud wrthym ni ar eich rhan, er enghraifft perthynas, gofalwr, Cynrychiolydd y Cyngor Iechyd Cymuned neu Aelod o Senedd Cymru. Fodd bynnag, ni fydd staff yn trafod eich pryderon â chynrychiolydd oni bai ei fod wedi cael eich caniatâd wedi’i lofnodi.
Gall unrhyw un sydd wedi defnyddio gwasanaethau neu gyfleusterau GIG godi pryder; neu unrhyw un sydd â chaniatâd y claf. Bydd eich pryder yn cael ei drin yn sensitif ac yn effeithlon. Mae’r Weithdrefn Gweithio i Wella yn bennaf ar gyfer pryderon ynglŷn â gwasanaethau a chyfleusterau sy’n ymwneud â gofal.
YN Y CNAWD: |
Yn aml, mae’n bosibl datrys pryderon a phroblemau yn y fan a’r lle trwy siarad yn uniongyrchol ag aelod o staff neu eu Rheolwr ar y ward neu yn yr adran. Os nad ydych chi’n teimlo’n gyfforddus yn siarad â nhw’n uniongyrchol, neu os ydych chi’n teimlo nad ydy’r mater wedi’i ddatrys, gallwch chi gysylltu â’r Tîm Pryderon a Phrofiad Cleifion. |
AR-LEIN |
Gallwch godi cwyn neu bryder trwy ddefnyddio’r ffurflen ar-lein hon. |
DROS Y FFÔN: |
01874 712582 Dydd Llun - Dydd Gwener 10yb - 3yp |
TRWY E-BOST: |
|
YN YSGRIFENEDIG: |
Gallwch chi ysgrifennu llythyr neu ddefnyddio’r Ffurflen Codi Pryder neu Gŵyn BIAP a’i hanfon at: Tîm Pryderon/ Profiad Cleifion BIAP |
Gallwch chi ysgrifennu’n uniongyrchol at y Prif Swyddog Gweithredol: Bwrdd Iechyd Addysgu Powys |
Gwybodaeth Bwysig i’w Rhoi i Ni
Mae’n ein helpu ni i ymchwilio i faterion yn gyflym os byddwch chi’n darparu’r wybodaeth a ganlyn pan fyddwch chi’n cysylltu â ni:
Dylid rhoi gwybod am bryder o fewn 12 mis fan bellaf o’r:
Ni ellir ein hysbysu am bryder 3 blynedd neu fwy o’r dyddiad y daeth y person yn ymwybodol o’r mater. Mae yna eithriadau i’r rheol ac os oes gennych chi unrhyw amheuaeth, cysylltwch â’r tîm Pryderon i drafod.
Yn y mwyafrif o achosion, byddwch chi’n cael ateb terfynol o fewn 30 diwrnod gweithio o’r dyddiad y gwnaethon ni dderbyn eich pryder gyntaf (heblaw am benwythnosau a gwyliau’r banc).
Os na allwn ni eich ateb o fewn yr amser hwnnw, byddwn ni’n rhoi’r rhesymau pam ichi ac yn rhoi gwybod ichi pryd y gallwch chi ddisgwyl ateb.
Mae’n bosibl bod yna rai achosion lle mae’n ofynnol cael ymchwiliad pellach dan y Trefniadau Unioni Cam. Amrywiaeth o gamau y gellir eu cymryd i ddatrys pryder, lle gallai’r sefydliad fod wedi bod ar fai gan achosi niwed, ydy hyn.
Mae’n bosibl y byddai hyn yn cynnwys ymddiheuriad ysgrifenedig ac esboniad o’r hyn a ddigwyddodd, cynnig triniaeth/ gwasanaeth adsefydlu i helpu i liniaru’r broblem ac / neu iawndal ariannol neu gyfuniad o’r rhain. Os bydd unioni cam yn berthnasol i’ch pryder chi, byddwn ni’n rhoi gwybod ichi beth y mae hyn yn ei olygu’n fanylach.
Bydd ymchwiliad di-oed a chyfrinachol i’ch pryderon, a byddwch chi’n cael cynnig y cyfle i drafod y mater yn bersonol. Nod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ydy datrys problemau’n gyflym ac yn effeithlon, a bydd yn ymchwilio’n drylwyr i’ch pryderon.
Unwaith y bydd hyn wedi’i gwblhau, fe fyddwch chi’n derbyn llythyr oddi wrth y Prif Weithredwr yn cadarnhau canlyniad yr ymchwiliad ac yn rhoi gwybod am unrhyw gamau a gymerwyd o ganlyniad i’ch pryder.
Os oes gennych chi bryder neu gŵyn am wasanaethau rydych chi wedi’u derbyn oddi wrth eich Meddyg Teulu, Deintydd, Fferyllydd neu Optegydd fe ddylech chi, fel rheol, ofyn i’r practis ymchwilio iddo.
Os yw’n well gennych chi, gall y Tîm Pryderon a Phrofiad Cleifion eich cynorthwyo i godi’ch pryderon â’r Meddyg Teulu neu ddarparwr gwasanaeth arall. Bydd y darparwr yn cael cyfle i ymateb i’ch pryderon yn uniongyrchol.
Os ydych chi eisoes wedi codi’ch pryderon yn uniongyrchol â’r Meddyg Teulu/darparwr gwasanaeth arall ac wedi derbyn ymateb, nid yw Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gallu ailymchwilio i’r pryderon hynny.
Os nad ydych chi’n fodlon â’r ymateb rydych chi’n ei dderbyn ac yn teimlo nad oes modd gwneud unrhyw beth pellach yn lleol i ddatrys eich pryder, gallwch chi gyfeirio’ch pryder at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ
Ffôn: 0300 790 0203
E-bost: ask@ombudsman.wales
Gwefan: www.ombwdsmon.cymru
Mae'r Llais yn darparu gwasanaeth eiriolaeth annibynnol, rhad ac am ddim, dan arweiniad cleientiaid, sy'n ymdrin â phob agwedd ar driniaeth a gofal y GIG, a gofal cymdeithasol. Mae'r gwasanaeth ar gael i'r holl breswylwyr ym Mhowys, ni waeth ble y darparwyd y driniaeth. Mae gwybodaeth am sut i gysylltu â Llais ym Mhowys hefyd ar gael o wefan: www.llaiscymru.org
Mae mwy o wybodaeth ac adnoddau mewn fformatau ac ieithoedd amgen ar gael ar wefan Gweithio i Wella (agor mewn dolen newydd).
Canllawiau Gweithio i wella mewn fformatau amgen (agor mewn dolen newydd)
Canllawiau Gweithio i wella mewn ieithoedd tramor (agor mewn dolen newydd)
Polisi Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar gyfer rheoli a datrys cwynion a phryderon yn effeithiol. (Staff yn unig. Ebostiwch pthb.policy.management@wales.nhs.uk am fynediad).
Mae croeso i aelodau’r cyhoedd godi pryderon yn y Gymraeg. Ymatebir i ohebiaeth a dderbynnir yn y Gymraeg yn y Gymraeg. Bydd angen i’r rheini sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg mewn cyfarfodydd sy’n ymwneud â phryder penodol roi gwybod i aelod o’r tîm pryderon cyn y cyfarfod er mwyn i BIAP wneud y trefniadau angenrheidiol.
Os ydy’ch pryder yn ymwneud â ni’n cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg ac os nad ydych chi’n fodlon â’r ymateb rydych chi wedi’i dderbyn ac yn teimlo nad oes dim pellach y gellir ei wneud yn lleol i ddatrys eich pryder, gallwch chi gyfeirio’ch pryderon at Gomisiynydd y Gymraeg:
Comisiynydd y Gymraeg
Siambrau’r Farchnad
5-7 Heol Eglwys Fair
Caerdydd CF10 1AT
Ffôn: 0345 6033 221