O fis Ebrill 2023 ymlaen, mae'r Ddyletswydd Gonestrwydd yn ofyniad cyfreithiol i bob sefydliad y GIG yng Nghymru.
Dysgwch fwy am y Ddyletswydd Gonestrwydd yn ein taflen:
Dylai bod yn agored ac yn onest fod wrth wraidd pob perthynas rhwng y rhai sy'n darparu triniaeth a gofal a'r rhai sy'n ei dderbyn.
Darllenwch yr adrannau isod i ddarganfod mwy am y Ddyletswydd Gonestrwydd a sut rydym yn ei rhoi ar waith ym Mhowys.
Mae’r Ddyletswydd Gonestrwydd yn ofyniad cyfreithiol i Sefydliadau GIG Cymru fod yn agored ac yn onest gyda’r defnyddwyr gwasanaethau sy’n derbyn gofal a thriniaeth. Amlinellir hyn yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020.
Mae’r Ddyletswydd Gonestrwydd yn berthnasol os yw’r gofal a ddarparwn wedi, neu y gallai fod wedi cyfrannu at niwed cymedrol neu ddifrifol annisgwyl neu anfwriadol, neu farwolaeth.
Ein Nod
Yn y GIG, rydym yn ymdrechu i ddarparu gofal diogel a thosturiol o ansawdd uchel i bob un o ddefnyddwyr ein gwasanaethau. Fodd bynnag, hyd yn oed pan fyddwn yn gwneud ein gorau, gall pobl brofi niwed weithiau. Dyna pam mae’r Ddyletswydd Gonestrwydd gennym.
Ein nod yw creu diwylliant o ymddiriedaeth a bod yn agored, fel y gallwch deimlo'n hyderus yn y gofal a gewch gennym.
Dyma grynodeb o’r Weithdrefn Dyletswydd Gonestrwydd y bydd y GIG yn ei dilyn:
Mae rhoi ymddiheuriad ystyrlon yn rhan bwysig o'r Weithdrefn Dyletswydd Gonestrwydd.
Mae ymddiheuriad yn fynegiant o dristwch neu ofid am y niwed a brofwyd. Fodd bynnag, nid cyfaddef bai nac atebolrwydd cyfreithiol mo ymddiheuriad.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, neu os hoffech arweiniad, ewch i'n gwefan neu cysylltwch â'r sefydliad lle cawsoch eich gofal.
Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys manylion cyswllt sefydliadau GIG Cymru, ar gael gan: https://www.llyw.cymru/dyletswyddgonestrwydd