Mae tîm llywodraethu gwybodaeth y bwrdd iechyd yn rheoli pob cais am wybodaeth ar ran y bwrdd iechyd.
Mae hyn yn cynnwys y canlynol:
- Ceisiadau am gofnodion meddygol neu gofnodion staff (Cais Gwrthrych am Wybodaeth a cheisiadau Mynediad at Gofnodion Iechyd) Mynediad at Wybodaeth - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru) Ceisiadau i ddileu neu newid unrhyw fanylion a allai fod yn anghywir mewn cofnodion meddygol neu bersonél. Dylid e-bostio ceisiadau at Swyddog Diogelu Data (DPO) y bwrdd iechyd a fydd yn ystyried eich cais yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Sylwer nad yw hyn yn hawl absoliwt i ddata iechyd. Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data trwy e-bostio information.governance.powys@wales.nhs.uk
- Ceisiadau am wybodaeth heddlu neu grwner. I sefydliadau sy’n gwneud cais, anfonwch e-bost at information.governance.powys@wales.nhs.uk gyda'r ffurflen gais briodol.
- Ceisiadau i gael mynediad at wybodaeth gorfforaethol (ceisiadau Deddf Rhyddid Gwybodaeth). Rhyddid gwybodaeth - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)