Neidio i'r prif gynnwy

Adfer ac Adsefydlu Covid

 
Wrth i chi ganfod eich hun yn gwella o COVID-19 efallai eich bod yn dal i ddod i delerau â'r effaith y mae'r firws wedi'i chael ar eich corff a'ch meddwl.
Dylai'r newidiadau hyn wella dros amser, gall rhai gymryd mwy o amser nag eraill, ond mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i helpu.
Mae GIG Cymru wedi datblygu ap i gefnogi oedolion sy’n gwella o COVID-19. Yr holl wybodaeth a chyngor pwysig am eich adferiad COVID mewn un lle hawdd ei gyrraedd.
Mae'n darparu fideos addysgol ymarferol a chyngor ar sut i reoli'r ystod eang o symptomau Syndrom Ôl-COVID y gallech fod yn eu profi; 
 

 

  • Peswch
  • Ennill pwysau
  • Hwyliau isel
  • Colli pwysau
  • Diffyg anadl
  • Niwl ymennydd
  • Straen a phryder
  • Blinder
  • Problemau cysgu
  • Poen yn y cymalau a phoenau cyhyrau
  • Problemau llais a llyncu
  • Llai o ffitrwydd a chryfder y cyhyrau
  • Newid synnwyr arogli a blas
I'r rhai sydd â synnwyr arogli a blas wedi newid yn gyson, mae yna hefyd nifer o adnoddau allanol ar gael a all ddarparu cefnogaeth a chyngor ar sut i reoli eich symptomau, ewch i'n tudalen Adnoddau Defnyddiol i ddarganfod mwy.
Rhannu:
Cyswllt: