Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau gofal iechyd

Y gwasanaeth Seicoleg ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) – dim ond gweithwyr iechyd proffesiynol gall wneud atgyfeiriadau, fodd bynnag am wybodaeth am yr hyn sydd ar gael, gweler y ddolen ganlynol:

Eich Gwasanaeth Seicoleg Lleol - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)

 

Mae SilverCloud gan Amwell® - SilverCloud® yn wasanaeth cymorth iechyd meddwl ar-lein am ddim sydd ar gael drwy GIG Cymru heb angen atgyfeiriad gan feddyg teulu. Trwy SilverCloud®, gallwch gyrchu ystod o raglenni hunangymorth dan arweiniad i'ch helpu chi reoli a gwella eich iechyd meddwl a'ch lles. Mae cefnogaeth ar gael ar gyfer gorbryder ysgafn-i-gymedrol, iselder, straen, anawsterau cysgu a mwy.

Mae pob rhaglen yn defnyddio technegau sy'n seiliedig ar Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) sy'n gweithio drwy eich annog i herio'r ffordd rydych chi'n meddwl ac yn ymddwyn fel eich bod mewn sefyllfa well i ddelio â phroblemau bywyd.

Gallwch gofrestru ar-lein a dewis un o'r rhaglenni iechyd meddwl a lles ar-lein sy’n hawdd eu defnyddio ac yn rhyngweithiol i'w cwblhau dros 12 wythnos. Er ei fod yn wasanaeth hunangymorth ar-lein, mae rhaglenni SilverCloud® yn cael eu cefnogi gan dîm o staff y GIG sydd wedi'u hyfforddi i ddarparu cymorth iechyd meddwl ar-lein. Ar ôl cofrestru, bydd 'Cefnogwr SilverCloud®' yn eich tywys drwy'r rhaglen, gan ddarparu adborth a chyngor ysgrifenedig bob pythefnos trwy neges ar-lein.

Mae gwefan SilverCloud® ar gael yn y ddolen ganlynol:

SilverCloud – Cymorth Iechyd Meddwl Ar-lein - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)

 

Neu sesiynau iechyd meddwl perthnasol eraill gyda'r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol. Mae Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol ar gael ym Mhowys i bobl o bob oedran. Mae’r gwasanaethau hyn ar gael i unigolion o bob oed sy’n  profi problemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol, sefydlog, neu ddifrifol iawn a pharhaus.

Mae tudalen we’r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol Lleol ar gael ar wefan Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar y ddolen ganlynol:

Eich Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)

Rhannu:
Cyswllt: