Neidio i'r prif gynnwy

SgwrsIechyd

Rhif tecstio SgwrsIechyd yw 07312 263050

Mae Gwasanaeth Nyrsio Ysgol Powys yn lansio gwasanaeth negeseuon newydd i gefnogi plant a phobl ifanc 11-18 oed ym Mhowys ar 21.11.22.

Mae SgwrsIechyd yn wasanaeth tecstio sy'n galluogi pobl ifanc i anfon neges destun at linell gymorth a chael gwybodaeth gyfrinachol a chefnogaeth gan dîm o nyrsys ysgol. Gall defnyddwyr ddewis cael cyngor yn ddienw os ydyn nhw'n dymuno.

Mae'r gwasanaeth wedi bod yn cael ei ddefnyddio yn Lloegr ers dros 10 mlynedd ac mae eisoes yn cael ei ddefnyddio gan fyrddau iechyd Cymru. Ar gyfer ardaloedd gwledig fel Powys mae'n caniatáu ffordd rhwydd ac amserol i gyrchu gwybodaeth iechyd trwy ddull cyfathrebu y mae pobl ifanc yn gyfforddus yn defnyddio.

Trwy ddefnyddio SgwrsIechyd gall pobl ifanc gael cymorth a chefnogaeth am amrywiaeth o faterion sy'n ymwneud ag iechyd a lles corfforol ac emosiynol. Rydym yn mawr obeithio y bydd tecstio hefyd yn galluogi pobl ifanc i gael cymorth yn haws ar gyfer materion sensitif hefyd, er enghraifft, iechyd rhywiol, hwyliau isel, camddefnyddio sylweddau a bwlio.

Mae pobl ifanc mewn ardaloedd eraill sy'n defnyddio SgwrsIechyd wedi dweud eu bod yn teimlo'n llai annifyr a ddim yn cael eu barnu drwy ddefnyddio'r gwasanaeth.

Bydd y gwasanaeth ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener ac eithrio Gwyliau Banc a bydd ar agor 9yb i 4.30yp. Nod y tîm Nyrsio Ysgolion fydd ymateb i unrhyw gyswllt o fewn 24 awr. Os bydd negeseuon yn cael eu derbyn y tu allan i oriau bydd ateb yn mynd allan ynglŷn â phryd maen nhw nesaf ar gael, gyda chyngor am wasanaethau eraill allai helpu.

 

Datganiad Datgelu

Mae’r sgwrs hon yn gyfrinachol. Ni fyddwn yn trosglwyddo unrhyw beth rydych chi’n ei ddweud gyda neb arall, oni bai rydych chi neu rywun arall mewn perygl sylweddol o niwed. Os oedd angen i ni rannu unrhyw beth rydych chi wedi'i ddweud wrthym, byddem bob amser yn ceisio trafod hyn gyda chi yn gyntaf. Er lles ein diogelwch ni a'ch diogelwch chi, bydd y sgwrs hon yn cael ei storio ar gofnodion electronig a bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill yn gallu eu gweld ond maen nhw hefyd yn dilyn yr un rheolau cyfrinachedd.

Rhannu:
Cyswllt: