Neidio i'r prif gynnwy

Porth Mynediad Deintyddol

Os ydych chi eisoes yn glaf mewn practis deintyddol, cysylltwch â'r practis hwnnw i gael eich gofal deintyddol arferol yn gyntaf.

Os nad ydych chi'n glaf mewn practis deintyddol, gallwch ychwanegu eich manylion ar gyfer cais am apwyntiad deintyddol arferol y GIG gyda'r Porth Mynediad Deintyddol ar-lein neu drwy sganio'r cod QR.

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os ydych chi’n byw mewn cyfeiriad ym Mhowys am fwy na chwe mis o'r flwyddyn, neu wedi cofrestru gyda meddyg teulu ym Mhowys.

Gallwch wneud cais drosoch eich hun neu ar ran eraill, fel plentyn, aelod o'r teulu neu fel gofalwr cyflogedig neu ddi-dâl.

Os nad ydych yn dymuno neu na allwch wneud cais ar-lein, ffoniwch Linell Gymorth Ddeintyddol Powys ar 01686 252 808.

Cysylltwch â GIG 111 Cymru os oes angen triniaeth ddeintyddol frys arnoch.

 

Gallwch ddarllen y polisi preifatrwydd ar gyfer y Porth Mynediad Deintyddol yma.

Rhannu:
Cyswllt: