Neidio i'r prif gynnwy

Porth Mynediad Deintyddol

Gallwch wneud cais am le gyda deintydd y GIG ar-lein os:

  • Nad ydych wedi cofrestru gyda deintydd y GIG ar hyn o bryd.
  • A nad ydych chi wedi cael triniaeth ddeintyddol arferol y GIG yng Nghymru yn ystod y pedair blynedd diwethaf (Dylai eich practis deintyddol blaenorol allu cynnig apwyntiad i chi os ydych chi wedi cael triniaeth gyda nhw yn ystod y pedair blynedd diwethaf.).
  • Ac ydych yn byw mewn cyfeiriad ym Mhowys am fwy na chwe mis y flwyddyn, neu wedi cofrestru gyda Meddyg Teulu ym Mhowys.

Gwnewch gais am le gyda deintydd y GIG

Gallwch ddefnyddio’r Porth Mynediad Deintyddol i wneud cais am le gyda deintydd y GIG fel unigolyn neu ar ran rhywun arall, fel plentyn, aelod o'r teulu neu fel gofalwr cyflogedig neu ddi-dâl. 

Os nad ydych yn dymuno neu os na allwch wneud cais ar-lein, ffoniwch Linell Gymorth Ddeintyddol Powys ar 01686 252808.

Os ydych yn gymwys ac yn gwneud cais, byddwn yn cysylltu â chi pan fydd lle addas ar gael.

Os nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol yn cynnig cymorth ychwanegol.

Os ydych yn byw ym Mhowys neu wedi cofrestru gyda Meddyg Teulu ym Mhowys ac angen help i gael triniaeth ddeintyddol arferol, ffoniwch Linell Gymorth Ddeintyddol Powys ar 01686 252808.

Rhannu:
Cyswllt: