Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol

Offer deintydd dros ddesg y clinig

Croeso i dudalen Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol BIA Powys

Beth mae'r gwasanaeth yn ei ddarparu?

Rydym yn wasanaeth sy’n seiliedig ar atgyfeirio sy’n cwmpasu Powys, ac yn darparu’r driniaeth ddeintyddol ganlynol:

  • Tawelydd Deintyddol
  • Deintyddiaeth Pediatrig
  • Deintyddiaeth Gofal Arbennig
  • Ymweliadau cartref
  • Triniaeth Llawfeddygaeth y Geg
  • Triniaeth endodontig
Pwy all gael eu gweld gan y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol?

Gan fod hwn yn wasanaeth sy'n seiliedig ar atgyfeirio, mae'n rhaid i weithwyr gofal iechyd proffesiynol wneud atgyfeiriad.

Mae'r gwasanaeth yn darparu triniaeth ddeintyddol i grwpiau o oedolion a phlant sy'n agored i niwed, y mae'n bosibl na fydd eu hanghenion ychwanegol yn cael eu diwallu gan wasanaethau deintyddol cyffredinol y GIG. Gall yr anghenion ychwanegol hyn gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • anableddau dysgu lluosog dwys, nam corfforol a/neu gyfathrebu
  • cyflyrau iechyd meddwl cronig cymedrol/difrifol gan gynnwys dementia
  • cyflyrau meddygol cymhleth
  • pryder deintyddol difrifol neu ffobiâu deintyddol
  • pobl sydd angen ymweliad cartref
  • pobl agored i niwed, er enghraifft digartref, ymfudwyr, ceiswyr lloches, ffoaduriaid
  • problemau caethiwed i gyffuriau neu alcohol
  • plant â phroblemau ymddygiad cymedrol neu ddifrifol
  • plant mewn angen ac yn destun cynllun amddiffyn plant ag anghenion ychwanegol neu gymhleth
  • plant sy’n derbyn gofal ag anghenion ychwanegol neu gymhleth
  • plant â chyflyrau deintyddol cymhleth eraill
  • plant nad ydynt yn gallu cofrestru gyda deintydd (sylwer pan fyddant yn 18 oed bydd angen iddynt gofrestru gydag ymarferydd deintyddol cyffredinol)
  • Triniaeth ddeintyddol gyffredinol i oedolion a phlant yn ein Clinigau Machynlleth a Llanfair ym Muallt

 

Pwy all gyfeirio at y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol?

Dim ond oddi wrth:

  • Ymarferwyr Deintyddol Cyffredinol trwy system e-atgyfeirio
  • Meddygon Teulu
  • Unrhyw weithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol proffesiynol arall, gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cartrefi gofal preswyl

 

Ble mae'r clinigau, a sut i gysylltu?

Gellir cysylltu â'n clinigau rhwng dydd Llun a dydd Gwener 8:45am - 5:00pm.

Mae ein hamseroedd clinig yn rhedeg o 9:30am - 4:00pm.

*Sylwer, nid yw’r holl wasanaethau a grybwyllir uchod yn cael eu darparu ym mhob safle – efallai y bydd gofyn i chi deithio yn dibynnu ar ba driniaeth sydd ei hangen arnoch*

 

  • Clinig Deintyddol Cymunedol Y Trallwng
    Cyfeiriad: Salop Road, Y Trallwng, Powys SY21 7ER
    Ffôn: 01938 553 161
  • Clinig Deintyddol Cymunedol y Drenewydd
    Cyfeiriad: Stryd y Parc, Y Drenewydd, Powys. SY16 1EG
    Ffôn: 01686 617 363
  • Clinig Deintyddol Cymunedol Machynlleth
    Cyfeiriad: Forge Road, Machynlleth, Powys. SY20 8EQ
    Ffôn: 01654 703 077
  • Clinig Deintyddol Cymunedol Llandrindod
    Cyfeiriad: Ysbyty Llandrindod, Temple Street, Llandrindod, Powys. LD1 5HF
    Ffôn: 01597 828 749
  • Clinig Deintyddol Cymunedol Llanfair-ym-Muallt,
    Cyfeiriad: Canolfan Iechyd Glan Irfon, Love Lane, Llanfair ym Muallt, Powys. LD2 3DG
    Ffôn: 01686 252 129
  • Clinig Deintyddol Cymunedol Aberhonddu
    Cyfeiriad: Ysbyty Coffa Rhyfel Aberhonddu, Heol Cerrigcochion, Aberhonddu, Powys. LD3 7NS
    Ffôn: 01874 615 640
  • Clinig Deintyddol Cymunedol Ystradgynlais
    Cyfeiriad: Ysbyty Cymunedol Ystradgynlais, Ffordd Glanrhyd, Ystradgynlais, Powys. SA9 1AU Ffôn: 01639 846 449

 

Gyda phwy i gysylltu os oes angen deintydd arnoch?

Os oes angen help arnoch i ddod o hyd i Ymarferydd Deintyddol Cyffredinol, ffoniwch Linell Gymorth Deintyddol Powys ar 01686 252 808

 

Gyda phwy i gysylltu os oes gennych chi argyfwng deintyddol?

Os oes gennych chi argyfwng deintyddol ac nad oes gennych chi Ymarferydd Deintyddol Cyffredinol, ffoniwch GIG 111 yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau.

Rhannu:
Cyswllt: