Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Radioleg

Claf gwrywaidd yn sefyll yn syth fyny gyda
Neidio i adran:

 

Beth yw’r gwasanaeth Radioleg a beth sydd ganddo i’w gynnig

Croeso i Radioleg Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP). Radioleg yw'r gangen o feddygaeth sy'n arbenigo mewn defnyddio delweddu i roi diagnosis o gyflyrau o fewn y corff.

Mae Radiograffwyr, Radiolegwyr a Sonograffwyr yn defnyddio technegau delweddu fel Pelydr-X ac Uwchsain, wrth wneud diagnosis ac i drin clefydau. Mae safleoedd BIAP yn y Trallwng, y Drenewydd, Llandrindod, Aberhonddu ac Ystradgynlais yn defnyddio technegau pelydr-X, law yn llaw ag Unedau Mân Anafiadau BIAP ac yn cefnogi gwasanaethau mamolaeth drwy ddefnyddio technoleg uwchsain gyda chleifion Powys yn ystod beichiogrwydd.

Mae gan adrannau Radioleg BIAP offer radiograffeg cyffredinol (peiriannau pelydr-X), unedau deintyddol, a sganwyr uwchsain.

 

Lleoliadau'r gwasanaeth

Mae ein hadrannau delweddu a'n timoedd yn darparu gwasanaeth delweddu ar safleoedd ar draws Powys yn:

  • Ysbyty Coffa Victoria, Y Trallwng
  • Clafdy Sirol Maldwyn (Ysbyty'r Drenewydd), Y Drenewydd
  • Ysbyty Bro Ddyfi, Machynlleth
  • Ysbyty Coffa Llandrindod
  • Ysbyty Coffa Rhyfel Sir Frycheiniog, Aberhonddu
  • Ysbyty Cymunedol Ystradgynlais

 

 

 

Sut gallwch chi weld y gwasanaeth?

Mae'r gwasanaeth Radioleg yn cynnwys gwasanaethau delweddu radioleg gyffredinol ar gyfer cleifion mewnol mewn ysbytai yn ogystal â chynnal atgyfeiriadau gan Feddygon Teulu, Unedau Mân Anafiadau, Ymgynghorwyr ymweld mewn clinigau un-alwad arbennig a Phroffesiynau Perthynol i Iechyd.

Mae ein hadrannau Radioleg yn derbyn atgyfeiriadau’r GIG ac atgyfeiriadau preifat, ond nid ydynt yn derbyn hunanatgyfeiriadau gan gleifion. Rhaid i atgyfeiriadau bob amser ddod gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol fel eich Meddyg Teulu neu Ymgynghorydd. Gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, er enghraifft Ffisiotherapydd neu Podiatrydd, hefyd eich cyfeirio at ddelweddu, lle maent wedi cwblhau hyfforddiant penodol ychwanegol i gael yr hawl i'ch cyfeirio.

Rydym yn gwasanaethu poblogaeth leol Powys ar gyfer delweddu pelydr X ac uwchsain. Ar gyfer mathau ychwanegol o ddelweddu fel Delweddu Cyseiniant Magnetig (MRI), Tomograffeg Gyfrifiadurol (CT), sgan Dexa neu Famograffeg byddech yn cael eich cyfeirio at ysbyty arall y tu allan i Bowys.

 

Beth ddylech chi ddisgwyl yn ystod apwyntiadau?

Oni bai eich bod yn glaf Uned Mân Anafiadau, byddwch yn derbyn llythyr gennym yn eich gwahodd i gael apwyntiad. Bydd y llythyr yn amlinellu unrhyw beth y gallai fod angen i chi ei wneud cyn mynychu neu unrhyw beth y gallai fod angen i chi ddod ag i’r apwyntiad gyda chi.

Bydd cleifion sy'n mynychu Unedau Mân Anafiadau, yn cysylltu â'r Uned yn y lle cyntaf i gael eu hadolygu gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol. Os oes angen sgan Pelydr-X yn dilyn eich asesiad yn yr Uned Mân Anafiadau gofynnir i chi fynychu'r adran X-Ray.

Mae'n bwysig, er lles tawelwch meddwl ein cleifion, eu bod yn deall yn well beth i'w ddisgwyl yn ystod gweithdrefn neu archwiliad radioleg. Siarad gyda'n tîm a'ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol a wnaeth yr atgyfeiriad yw'r lle gorau i ddechrau, ond dyma rai cwestiynau cyffredin cyn apwyntiad radioleg.

 

 

Cyngor i Weithwyr Iechyd Proffesiynol: Meini prawf a ffurflenni atgyfeirio

Cysylltwch â'ch adran Radioleg leol ar gyfer atgyfeiriad am ddelweddau ffilm blaen neu uwchsain o fewn Powys. Yn dibynnu ar eich hawl i gyfeirio a’ch cwmpas ymarfer byddwch yn cael ffurflen atgyfeirio gennym.

 

Ein Tîm

Fel rhan o’r Tîm Radioleg, mae’r rolau canlynol:

  • Pennaeth Proffesiynol Radioleg
  • Llywodraethu ac Uwchsonagraffydd Arweiniol
  • Arweinydd Tîm Radiograffeg
  • Sonograffwyr
  • Radiograffwyr Adrodd
  • Uwch Radiograffwyr
  • Radiograffwyr
  • Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd
  • Gweinyddiaeth

Gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, er enghraifft, sonograffwyr bydwreigiaeth gwblhau archwiliadau uwchsain yn ymwneud â maes mamolaeth ac mewn rhai safleoedd gweithio o'r adran Radiograffeg.

 

 

 

Adnoddau cyngor a chymorth

 

Delweddu pelydr-X

Mae rhagor o wybodaeth gyffredinol am y dull delweddu pelydr-X ar gael drwy'r ddolen ganlynol i wefan y GIG:

Pelydr-x (tudalen we Saesneg)

 

Delweddu uwchsain

Mae rhagor o wybodaeth gyffredinol am y dull delweddu uwchsain ar gael drwy'r ddolen ganlynol i wefan y GIG:

Sgan uwchsain (tudalen we Saesneg)

 

Taith claf trwy Radioleg

Mae'r ddolen ganlynol yn dangos enghraifft o daith glaf drwy adran Radioleg ar YouTube:

Taith claf drwy adran radioleg - Fideo YouTube (youtube.com) (Saesneg yn unig)

 

Enghraifft o sgan uwchsain

Mae'r ddolen ganlynol yn dangos enghraifft o beth sy’n digwydd yn ystod sgan uwchsain ar YouTube:

Beth sy'n digwydd mewn sgan Uwchsain? - Fideo YouTube (youtube.com) (Saesneg yn unig)

 

Cyngor ar Raglen Delweddu Genedlaethol GIG Cymru

Mae'r ddolen ganlynol yn arwain at gyhoeddiad 'Delweddu meddygol: beth mae angen ichi wybod' gan Raglen Delweddu Genedlaethol GIG Cymru. Bydd y cyhoeddiad hwn yn rhoi rhywfaint o wybodaeth i chi am y gwahanol fathau o archwiliadau delweddu a'u manteision a'u peryglon. Bydd eich Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol yn sicrhau bod y manteision i chi'n bersonol o gael unrhyw archwiliad yn fwy na'r peryglon o ymbelydredd. Gallwch ddefnyddio'r tabl ar ddiwedd y cyhoeddiad hwn i edrych ar y peryglon ymbelydredd ar gyfer gwahanol archwiliadau. Os oes gennych gwestiynau ar ôl darllen y cyhoeddiad hwn, gofynnwch i'ch Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol:

Cyhoeddiad ‘Delweddu meddygol: beth mae angen ichi wybod' gan Raglen Delweddu Genedlaethol GIG Cymru

 

Cadw'n Iach Tra Byddwch yn Aros

Os ydych yn aros am lawdriniaeth neu driniaeth ar hyn o bryd, gall paratoi yn effeithlon a dysgu sut i reoli eich symptomau wneud gwahaniaeth sylweddol i ganlyniad eich triniaeth a’ch adsefydliad. Mae’r dudalen ‘Cadw'n Iach Tra Byddwch yn Aros' ar wefan Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn darparu ystod o gyngor i gefnogi hyn, yn y ddolen ganlynol:

Cadw'n Iach Tra Byddwch yn Aros - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru) 

 

Manylion cyswllt y gwasanaeth

Rhifau ffôn, gwasanaethau a gynigir ac oriau gwasanaethu:

 

 

Adborth y claf ar y gwasanaeth

Ein nod yw cynnig gwasanaeth gwych i gwsmeriaid, gyda mynediad uniongyrchol at ein gwasanaeth delweddu ar gyfer cleifion mewnol a'r rhai sydd wedi cael eu cyfeirio gan eu gweithiwr gofal iechyd proffesiynol. Rydym yn gwerthfawrogi ac yn croesawu eich adborth i'n helpu ni wella. A fyddech cystal â threulio amser i lenwi un o'n ffurflenni adborth yn ystod eich ymweliad â ni?

Os nad yw ein gwasanaeth yn foddhaol mewn unrhyw agwedd o’ch ymweliad, dilynwch drefn pryderon a chwynion y Bwrdd Iechyd, fel y manylir ar wefan BIAP yn y ddolen ganlynol:

Adborth a Chwynion - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)

Bydd y Tîm Pryderon / Profiad y Claf yn gweithio gyda ni i gael ymateb llawn.

Sylwer, rydym yn safle hyfforddi ar gyfer Radiograffwyr israddedig sy'n cefnogi Prifysgolion Bangor a Chaerdydd.

 

Mynediad at Gofnodion Iechyd

Sylwer na all yr adran Radioleg ganiatáu i chi dynnu lluniau yn ystod neu ar ôl unrhyw weithdrefn archwilio. I gael copïau o unrhyw ddelweddu, ceisiwch gyngor a'r prosesau gwneud cais a fanylir ar dudalen we BIAP 'Mynediad at Wybodaeth', sydd ar gael yn y ddolen ganlynol:

Mynediad at Wybodaeth - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)

Rhannu:
Cyswllt: