Mae'r gwasanaeth Ffisioleg Anadlol a Chwsg yn cynnig amrywiaeth o brofion diagnostig i gleifion er mwyn ymchwilio i'ch anadlu a sut mae eich ysgyfaint yn gweithio.
Dyma rai o’r profion y gallwch gael yn yr adran - mae mwy o wybodaeth amdanynt ar gael isod:
Ar hyn o bryd, ni allwn gynnig therapi Pwysedd Positif Parhaus Yn Y Llwybr Anadlu (CPAP). Mae hwn yn cael ei ddarparu gan wasanaethau cwsg mwy sydd wedi'u lleoli mewn Byrddau Iechyd neu Ymddiriedolaethau sy'n gyfagos i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys. Os bydd angen y prawf hwn arnoch, gan amlaf, gwneir atgyfeiriad yn uniongyrchol o'n gwasanaeth i wasanaeth CPAP yn un o'r Byrddau Iechyd / Ymddiriedolaethau eraill hyn.
Nid ydym yn cynnig gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu, ond mae'r gwasanaeth Helpa Fi i Stopio yn derbyn atgyfeiriadau uniongyrchol. Os oes gennych ddiddordeb mewn rhoi'r gorau i ysmygu, cliciwch ar y ddolen ganlynol lle gallwch hunanatgyfeirio at wasanaethau Helpa Fi i Stopio / Rhoi’r Gorau i Ysmygu yng Nghymru. Os dymunwch, gallwn wneud atgyfeiriad ar eich cyfer i'r gwasanaeth Helpa Fi i Stopio:
Tudalen Gartref - Helpa Fi i Stopio
Mae tystiolaeth yn dangos mai'r peth pwysicaf y gallwch wneud er budd eich iechyd, nid iechyd yr ysgyfaint yn unig, yw rhoi'r gorau i ysmygu.
Lleoliad canolog y gwasanaeth Ffisioleg Anadlol a Chwsg yw Ysbyty Bronllys. Rydym wedi ein lleoli yn yr uned Ysbyty Dydd ar y safle, tu ôl i Ward Llewellyn.
Mae clinigau allgymorth sy'n darparu profion Sbirometreg, Gwrthdroadwyedd a Mesuriadau Nwy'r Gwaed yn cael eu darparu mewn nifer o leoliadau ar draws Powys. Mae’r clinigau’n cael eu cynnal yn:
Rydym yn cynnig Profion Llawn o Weithrediad Yr Ysgyfaint yn Ysbyty Cymunedol Bronllys yn unig. Mae maint a sensitifrwydd yr offer yn golygu ni allwn ei symud.
Mae apwyntiadau Ocsifesurydd Dros Nos ac ApnoeaLink™ yn rhithwir, gan ddefnyddio’r system ddigidol Attend Anywhere. Mae hyn yn galluogi cleifion i aros yn agosach at eu cartref i gael y prawf. Mae rhagor o wybodaeth ar gynnal apwyntiadau ac arweiniad ar sut i ddefnyddio'r dull digidol hwn ar gael ar y ddolen ganlynol:
Clinigau Rhithwir gydag Attend Anywhere - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)
Weithiau mae cleifion yn cael cynnig apwyntiadau mewn lleoliadau nad ydynt o reidrwydd yn eu hysbyty agosaf. Mae hyn oherwydd weithiau bod y rhestrau aros yn hirach mewn lleoliad penodol, a bydd y prawf yn cael ei berfformio'n gyflymach mewn lleoliad arall. Os byddai'n well gennych aros a chael eich gweld yn agosach at adref, rhowch wybod i ni pan fyddwn yn cysylltu â chi i drefnu eich apwyntiad.
Gall cleifion gael eu cyfeirio at y gwasanaeth trwy nifer o ffynonellau. Mae hyn yn cynnwys eich Meddyg Teulu, ymgynghorwyr o fewn Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Byrddau Iechyd eraill, Nyrsys Arbenigol Anadlol, Gwasanaeth Byw’n Dda Powys ac arbenigwyr o Fyrddau Iechyd eraill. Nid ydym yn cynnig hunanatgyfeiriad at y gwasanaeth, felly ni all cleifion atgyfeirio eu hunain at y gwasanaeth.
Meini prawf cyfeirio ar gyfer profion Sbirmotreg, profion Gwrthdroadwyedd a phrofion Llawn o Weithrediad yr Ysgyfaint:
Cyn i glaf cael ei ystyried am atgyfeiriad at wasanaeth Ffisioleg Anadlol, gwnewch yn siŵr eu bod yn cydymffurfio gyda’r meini prawf llawn. Mae hyn yn cynnwys:
Meini Prawf Cynhwysiant:
Cleifion sy'n dioddef o symptomau anadlol newydd neu sydd wedi cael cyngor gan Wasanaethau Iechyd Galwedigaethol i ofyn am gyngor. Megis:
Meini Prawf Eithrio:
Cleifion sydd:
Meini prawf cyfeirio ar gyfer Astudiaethau Cwsg / Ocsifesurydd Dros Nos / ApnoeaLink™:
Cyn i glaf cael ei ystyried am atgyfeiriad at wasanaeth Ffisioleg Cwsg, gwnewch yn siŵr bod profion gwaed sylfaenol wedi cael eu gwneud.
Meini Prawf Cynhwysiant:
Cleifion sy’n dioddef o:
Meini Prawf Eithrio:
Cleifion:
Mae'r ddolen ganlynol yn darparu'r ffurflen atgyfeirio sydd ei hangen i atgyfeirio claf ar gyfer apwyntiad gyda'n gwasanaeth ar gyfer Ocsimetreg Dros Nos, er mwyn archwilio i apnoea cwsg ataliol posibl. Cwblhewch y ffurflen hon, atodwch grynodeb meddygol a'i chyflwyno drwy system Porth Cyfathrebu Clinigol Cymru (PCCC):
Profforma atgyfeirio ar gyfer Gwasanaeth Cwsg Powys
Nid yw therapi Pwysedd Positif Parhaus yn y Llwybr Anadlu (CPAP) ar gael:
Sylwer, nid yw Powys yn cynnig triniaeth CPAP ar hyn o bryd a byddwn yn danfon adroddiad diagnostig yn ôl i’r atgyfeiriwr. Lle bo angen atgyfeiriad ymlaen, bydd hwn yn gyfrifoldeb ar y Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol a wnaeth y cais gwreiddiol.
Mesuriadau Nwy'r Gwaed:
Dim ond gan dimau Anadlol a Niwroleg y gellir gwneud ceisiadau am fesuriadau nwyon gwaed. Gall y rhain fod yn dimau y tu allan i'r ardal.
Mae pob apwyntiad yn cael ei drefnu ymlaen llaw. Byddwch yn cael taflen wybodaeth sy’n nodi manylion eich prawf, unrhyw gyfarwyddiadau i chi ddilyn cyn y prawf (megis peidio â chymryd meddyginiaeth) ac unrhyw wrtharwyddion (pethau sy’n gallu eich atal rhag cael y prawf). Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen y daflen gyfan cyn mynychu’r prawf ac mae croeso i chi gysylltu â’r gwasanaeth / atgyfeiriwr os oes gennych unrhyw gwestiynau. Mae copi o bob taflen ar gael isod gydag enw’r prawf ar bob adran.
Yn ystod eich apwyntiad, boed yn wyneb yn wyneb neu’n rhithwir, byddwch yn cael eich gweld gan Ffisiolegydd Anadlol neu Weithiwr Cymorth Gofal Iechyd. Bydd y staff hyn yn eich arwain trwy’r apwyntiad a sicrhau bod y canlyniadau sy’n cael eu casglu yn y prawf yn addas ac yn gywir, i sicrhau eich bod yn cael y diagnosis, gofal a thriniaeth orau bosib i chi.
Mae rhagor o wybodaeth isod sy’n disgrifio'r gwahanol brofion diagnostig a ddarperir gan y gwasanaeth i ymchwilio i'ch anadlu a sut mae eich ysgyfaint yn gweithio. Cliciwch ar yr adrannau canlynol i ddarllen mwy o wybodaeth:
Mae gan Asthma + Lung UK (yr enw newydd ar Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint) gyfoeth o wybodaeth am bob peth sy'n ymwneud ag anadlu, gan gynnwys profion, clefyd anadlol a'r hyn y dylai cleifion ei ddisgwyl gan eu Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol. Gweler ei wefan yn y ddolen isod:
Asthma + Lung UK (blf.org.uk) (Gwefan Saesneg)
Mae Asthma + Lung UK hefyd wedi rhyddhau adroddiad o'r enw 'Diagnosing The Problem: Right Test, Right Time'. Dyma adroddiad ar ddarparu profion diagnostig anadlol allweddol, sy'n ymchwilio i ffyrdd o wella diagnosis cynnar a chywir. Mae'r adroddiad ar gael drwy'r ddolen ganlynol i dudalen we berthnasol Asthma + Lung UK:
Diagnosing the problem: Right test, right time | Asthma + Lung UK (asthmaandlung.org.uk) (Gwefan Saesneg yn unig)
Mae gan Ymddiriedolaeth Apnoea Cwsg wybodaeth fanwl ar gyfer pob claf sy'n cael eu hymchwilio neu eu trin am apnoea cwsg ataliol. Gweler ei wefan yn y ddolen isod:
Ymddiriedolaeth Apnoea Cwsg - Elusen cymorth i gleifion (sleep-apnoea-trust.org) (Gwefan Saesneg)
Os ydych yn glaf yng Nghymru, yn dioddef o asthma neu Glefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (COPD), mae yna apiau digidol GIG Cymru sy’n gallu eich cefnogi wrth reoli eich cyflwr. Am fwy o wybodaeth ewch i’r ddolen GIG Cymru ganlynol:
Apiau Hunanreoli Anadlol Cleifion GIG Cymru - Gofal Sylfaenol Un
Os ydych yn aros am lawdriniaeth neu driniaeth ar hyn o bryd, gall paratoi yn effeithlon a dysgu sut i reoli eich symptomau wneud gwahaniaeth sylweddol i ganlyniad eich triniaeth a’ch adsefydliad. Mae’r dudalen ‘Cadw'n Iach Tra Byddwch yn Aros' ar wefan Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn darparu ystod o gyngor i gefnogi hyn, yn y ddolen ganlynol:
Cadw'n Iach Tra Byddwch yn Aros - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)
Dyma rif ffôn yr adran:
Mae gan y ffôn beiriant ateb, felly mae croeso i chi adael neges. Bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.
Kimberley Lewis: Pennaeth yr Adran
Kimberley yw pennaeth yr adran Ffisioleg Anadlol a Chwsg. Mae Kimberley wedi bod yn Ffisiolegydd cymwys ers 2008. Mae Kimberley yn frwdfrydig dros ofal angerddol a diagnosis cywir i bawb.
Kym Swan: Swyddog Cymorth Gweinyddol
Mae Kym wedi gweithio i’r GIG fel Cymorth Gweinyddol ers 2008, yn wreiddiol yn Llundain ond wedi bod yma ym Mhowys ers 2016. Mae gan Kym dros 35 mlynedd o brofiad yn y maes hwn ac yn hapus i helpu bob amser!
Rhodri Curtis: Ffisiolegydd Anadlol
Graddiodd Rhodri o Brifysgol Abertawe yn 2023 gyda gradd mewn Ffisioleg Anadlol a Chwsg (BSc). Mae Rhodri yn angerddol iawn am Iechyd Anadlol ac mae'n ymroddedig i'ch cefnogi chi yn ein gwasanaeth o safbwynt gofal a gwybodaeth.
Lydia McGettigan: Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd
Mae Lydia wedi gweithio i’r GIG tua 18 mlynedd mewn amryw o rolau, gan arbenigo dros y ddwy flynedd diwethaf yn y Tîm Anadlol Cymunedol yng Ngogledd-ddwyrain Powys. Ar hyn o bryd mae Lydia yn datblygu ei rôl yn yr Adran Ffisioleg drwy ymgymryd â chlinigau Sbirometreg dan arweiniad y Ffisiolegydd.
Michelle Watson: Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd
Wedi dechrau bywyd yng Nghanada a symud i'r DU yn 1993, mae Michelle yn gyn-fyfyrwraig Sheffield Hallam ac wedi gweithio yn y GIG am dros 15 mlynedd. Mae hi'n falch o fod wedi bod yn rhan o Raglen Frechu Powys fel Imiwneiddiwr Covid-19. Mae Michelle yn mwynhau arbenigo mewn cefnogaeth anadlu ac yn edrych ymlaen at gynyddu ei sgiliau mewn sbirometreg a defnyddio hyn i helpu ein cleifion anadlol.
Sian Hayward: Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd
Dechreuodd Sian weithio i’r GIG yn 2002 ac mae wedi bod yn ffodus iawn i weithio mewn ystod amrywiol o rolau clinigol. Ymunodd Sian â BIAP yn ddiweddar o’r Tîm Nyrsio Ardal ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro, oherwydd ei bod hi a’i theulu yn bwriadu symud i fyw yn Ne Powys. Mae Sian yn edrych ymlaen at ennill sgiliau a gwybodaeth newydd ac i allu helpu a chefnogi ein cleifion anadlol.
Rydym yn croesawu eich adborth ar unrhyw adeg am eich profiad fel claf o'r gwasanaeth Ffisioleg Anadlol a Chwsg. Mae croeso i chi roi adborth drwy'r ddolen ganlynol, neu drwy sganio'r 'cod QR' isod gan ddefnyddio'ch ffôn clyfar / dyfais, a fydd yn mynd â chi i'r un gwefan:
Adborth y Claf – Gwasanaeth Ffisioleg Anadlol a Chwsg Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Cod QR: