Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan Therapïau

Dwy fenyw ifanc - un yn gwisgo sbectol - yn gweithio gyda
Beth yw'r gwasanaeth Canolfan Therapïau a beth sydd ganddo i’w gynnig:

Mae'r Ganolfan Therapïau yn cynnig un pwynt cyswllt i gleifion ac atgyfeirwyr ar gyfer gwahanol Wasanaethau Therapïau a Gwyddorau Iechyd Bwrdd Addysgu Powys (BIAP). Ar hyn o bryd mae'r Ganolfan Therapïau yn cefnogi'r broses benodi a'r rheolaeth atgyfeirio ar gyfer y gwasanaethau canlynol:

 

Dulliau atgyfeirio:

Gallwch hunanatgyfeirio at y gwasanaethau canlynol fel aelod o'r cyhoedd, trwy lenwi eu ffurflen atgyfeirio ar-lein berthnasol, sydd ar gael yn y dolenni canlynol:

 
Beth ddylech chi ei ddisgwyl wrth gysylltu â'r Ganolfan Therapïau:

Er mwyn cydymffurfio â gofynion cyfrinachedd, bydd Cynghorydd y Ganolfan Therapïau yn cadarnhau eu bod yn siarad â'r claf, neu gynrychiolydd o'r claf (gyda chaniatâd y claf).

I drefnu apwyntiad, bydd angen i Ymgynghorydd y Ganolfan Therapïau gadarnhau enw, dyddiad geni, cyfeiriad a manylion cyswllt y claf yn gyntaf, gan gynnwys rhif ffôn llinell dir, rhif ffôn symudol a chyfeiriad e-bost.

 

Adnoddau cyngor a chymorth:

Bydd y ddolen ganlynol yn mynd â chi at drosolwg o'r gwasanaethau sydd ar gael gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, gyda dolenni ymlaen ar gael i archwilio rhagor o wybodaeth am wasanaethau unigol:

Gwasanaethau - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)

 

Gellir cynnal rhai apwyntiadau gyda'r gwasanaethau yn rhithwir / ar-lein (gan ddefnyddio galwadau fideo trwy'r rhyngrwyd), mewn rhai achosion gan ddefnyddio platfform digidol 'Attend Anywhere' BIAP. Bydd Tîm y Ganolfan Therapïau yn rhannu gwybodaeth am yr opsiynau digidol hyn lle bo hynny'n berthnasol a bydd yn eich cefnogi i gael mynediad at y dulliau digidol hyn. Mae rhagor o wybodaeth ar gynnal apwyntiadau ac arweiniad ar sut i ddefnyddio'r dull digidol hwn ar gael ar y ddolen ganlynol:

Clinigau Rhithwir gydag Attend Anywhere - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)

 

Os ydych yn aros am lawdriniaeth neu driniaeth ar hyn o bryd, gall paratoi yn effeithlon a dysgu sut i reoli eich symptomau wneud gwahaniaeth sylweddol i ganlyniad eich triniaeth a’ch adsefydliad. Mae’r dudalen ‘Cadw'n Iach Tra Byddwch yn Aros' ar wefan Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn darparu ystod o gyngor i gefnogi hyn, yn y ddolen ganlynol:

Cadw'n Iach Tra Byddwch yn Aros - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)

 

 

 
Manylion cyswllt ar gyfer y Ganolfan Therapïau:

Gellir cysylltu â'r Ganolfan Therapïau drwy'r dulliau canlynol:

 

E-bost: therapies.hub.pow@wales.nhs.uk

 

Rhif Ffôn: 0845 840 1234  neu  01686 613 200

 

Cyfeiriad:

Y Ganolfan Therapïau​​​​​​
Clafdy Sirol Maldwyn (Ysbyty’r Drenewydd)
Heol Llanfair
Y Drenewydd
Powys
SY16 2DW​​​​​​

 

Adborth y Claf:

Mae adborth cleifion yn werthfawr iawn wrth ein galluogi i wella ein gwasanaethau yn barhaus i’n cleifion. Rydym yn croesawu adborth gan y rhai sydd wedi defnyddio'r gwasanaeth Canolfan Therapïau, i'r cyfeiriad e-bost canlynol. O fewn eich e-bost adborth, nodwch fod eich cyswllt gyda'r 'Ganolfan Therapïau', fel y gallwn sicrhau bod eich adborth yn cael ei ystyried yn y cyd-destun cywir.

Sylwer, dylid gwneud pob ymholiad arall nad yw'n gysylltiedig ag adborth a'r holl gyswllt ar gyfer apwyntiadau trwy brif fanylion cyswllt y Ganolfan Therapïau a restrir uchod.

Gellir anfon adborth cleifion i'r cyfeiriad e-bost canlynol:

Pow.TherapiesandHealthSciences@wales.nhs.uk

 

Rhannu:
Cyswllt: