Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Dieteteg

Aelodau Tîm Deieteg Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) yn sefyll y tu allan ar gyfer llun grŵp, gyda choed y tu ôl iddynt
Neidio i adran:
 

 

Beth mae Deietegwyr yn gwneud

Mae Deietegwyr yn weithwyr iechyd proffesiynol cymwysedig a rheoleiddiedig sy’n asesu ac yn trin problemau sy’n ymwneud â deieteg a maeth, ynghyd â rhoi diagnosis ohonynt, ar lefel unigol ac ar lefel iechyd cyhoeddus ehangach.

Gan gydweithio gyda gweithwyr iechyd eraill, maen nhw’n defnyddio’r ymchwil iechyd y cyhoedd ac ymchwil gwyddonol diweddaraf ar fwyd, iechyd ac afiechydon a’u troi’n ganllawiau ymarferol er mwyn galluogi pobl i wneud penderfyniadau addas i’w ffordd o fyw a’u bwyd.

 

Deieteg ym Mhowys

Bwriad gwasanaeth clinigol Deieteg yw darparu gwasanaethau cymunedol yn seiliedig ar dystiolaeth sy’n cadw’r cleient wrth wraidd, trwy apwyntiadau wedi’u trefnu, sy’n ymateb i anghenion oedolion a phlant.

Ymhlith y cyflyrau sy’n cael eu rheoli gan y gwasanaeth mae, rheoli pwysau, diabetes, bwydo enterig gastroenteroleg, gofal henoed, alergedd / anoddefiad bwyd, anhwylder bwyta a deietau paediatrig.

Cynigir sesiynau grŵp i helpu atal a rheoli diabetes a chyflyrau anadlol, a chefnogi rheoli pwysau, neu bydd cleifion yn cael cynnig apwyntiadau unigol gyda Deietegydd.

Mae’r tîm hefyd yn cefnogi Cleifion Mewnol a Chartrefi Gofal ym Mhowys, yr Uned Dialysis Arennol yn Llandrindod, plant mewn ysgolion a Gwasanaeth Anhwylder Bwyta Bob Oedran.

Ein nod yw darparu asesiadau rheolaidd o fewn 14 wythnos, ac asesiadau brys o fewn 2 wythnos.

Mae’r Tîm Deietegol Iechyd y Cyhoedd yn gweithio ag ystod o wahanol sefydliadau lleol a chenedlaethol i hybu iechyd gydol oes. Maent yn arbenigwyr wrth addysgu a hyrwyddo unigolion i wneud penderfyniadau deiet a ffordd o fyw iach a chynaliadwy. Mae’r tîm hwn yn arwain y Gwasanaeth Rheoli Pwysau (mwy o wybodaeth isod) Gan gydweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, maent hefyd yn meithrin cysylltiadau cymunedol i hyrwyddo maeth a chynnig addysg i’r cyhoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol, gan gynnwys y rhaglenni Sgiliau Maeth am Oes a Bwyd a Hwyl.

 

Lleoliadau'r gwasanaeth a sut mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu ar draws Powys

Mae deietegwyr yn aml yn cynnig clinigau dros y ffôn a fideo (trwy feddalwedd Attend Anywhere) ar draws Powys. Gall cleifion gyrchu cymorth digidol i gefnogi gyda’r dechnoleg - gweler y ddolen isod. Gellir trefnu apwyntiadau trwy Ganolfan Therapïau Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, a fydd yn cysylltu â chleientiaid yn uniongyrch ac yn trefnu cymorth digidol, lle bo angen.

Cynigir apwyntiadau wyneb yn wyneb hefyd, lle bo’n fwy priodol, mewn lleoliadau ar draws Powys.

Mae pob plentyn yn cael cynnig apwyntiad wyneb yn wyneb ar gyfer eu hapwyntiad cyntaf, yn un o safleoedd canlynol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP):

  • Ynys y Plant (Y Drenewydd)
  • Ysbyty Bro Ddyfi Machynlleth
  • Ysbyty Coffa Fictoria Y Trallwng
  • Ysbyty Coffa Rhyfel Llanidloes
  • Ysbyty Coffa Rhyfel Sir Frycheiniog (Aberhonddu)

Yna gall apwyntiadau dilynol i blant fod dros y ffôn neu fideo, gyda chytundeb.

Mae rhagor o wybodaeth ar gynnal apwyntiadau ac arweiniad ar sut i ddefnyddio'r dull digidol hwn ar gael ar y ddolen ganlynol: Clinigau Rhithwir gydag Attend Anywhere - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)

 

 

 
Atgyfeiriad at Glinigau

Mae meini prawf atgyfeirio wedi cael ei gytuno a’i adolygu gan y tîm Clinigol yn unol â chanllawiau cenedlaethol a NICE (Y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol). Dim ond gan feddygon teulu (Ymarferwyr Cyffredinol) neu Weithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol y derbynnir atgyfeiriadau clinigol, trafodwch hyn gyda nhw os hoffech siarad â Dietegydd.

 

Ydych chi’n awyddus i golli pwysau?

Man da i gychwyn ceisio cymorth yw’r ddolen ganlynol i wefan 'Pwysau Iach Byw’n Iach' GIG Cymru:

Hafan - Pwysau Iach Byw'n Iach CY (pwysauiach.cymru)

 

Angen mwy o gymorth?

Ym Mhowys, mae oedolion yn gallu cael cymorth gan y GIG i gefnogi eu siwrne i golli pwysau trwy ein Gwasanaeth Rheoli Pwysau lleol. Mae'r gwasanaeth hwn yn derbyn hunanatgyfeiriadau.

Mae'r Gwasanaeth Rheoli Pwysau yn cael ei redeg gan y Tîm Deieteg Iechyd Cyhoeddus. Bydd Ymarferwyr Cynorthwyol sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig yn eich asesu a'ch cyfeirio at gyfres o gyrsiau sy'n helpu eich cymell a'ch cefnogi i wneud dewisiadau iachach. Mae'r rhain yn cynnwys addysg ddietegol (Bwyd Doeth am Oes), datblygu sgiliau coginio (Dewch i Goginio), ymarfer corff (Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS)), neu fynediad at gefnogaeth fwy teilwredig.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i'r rheini sy'n 18 oed ac yn hŷn, yn byw ym Mhowys / sydd â Meddyg Teulu ym Mhowys ac sydd â Mynegai Màs y Corff (BMI) dros 25kg / m2.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i'r ffurflen hunanatgyfeirio:

Hunanatgyfeiriad Gwasanaeth Rheoli Pwysau Lefel 2 Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Mae rhai meini prawf gwahardd yn berthnasol, ac os oes angen byddwn yn ailgyfeirio eich atgyfeiriad. I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth hwn, cysylltwch drwy e-bost yn: Powys.PublicHealthDietetics@wales.nhs.uk

Ydych chi'n feichiog ac yn chwilio am gefnogaeth i fwyta'n dda, bod yn egnïol a chynyddu eich pwysau’n iach yn ystod beichiogrwydd? Edrychwch ar yr ‘ap Bwyd Doeth yn ystod Beichiogrwydd’ newydd, am ddim, fel y manylir yn y daflen sydd ar gael yn y ddolen ganlynol. Yn y daflen hefyd mae delwedd cod QR ar ei dudalen olaf, felly gallwch ei sganio gyda ffôn clyfar / dyfais arall wedi'i galluogi, i ddod o hyd i'r ap yn hawdd:

Taflen ap Bwyd Doeth yn ystod Beichiogrwydd (nutritionskillsforlife.com)

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon penodol, cysylltwch â'ch tîm gofal iechyd.

 

Beth ddylech chi ddisgwyl yn ystod apwyntiadau gyda’r gwasanaeth Deieteg?

Ar gyfer clinigau o bell ac wyneb yn wyneb, mae apwyntiadau cleifion allanol cychwynnol yn 45 munud, ac mae apwyntiadau adolygu tua 30 munud.

Yn yr ymgynghoriadau gofynnir cwestiynau i gleifion / gofalwyr sy'n gysylltiedig â'u hiechyd ar eu deiet a'u ffordd o fyw. Ar ôl asesu, bydd y Dietegydd yn rhoi cyngor ar lafar i gleifion, ac yna gwybodaeth ysgrifenedig ac adnoddau digidol fel y bo'n briodol.

Gellir cynnig apwyntiadau pellach yn ôl y gofyn, ac ar ryddhau'r bydd y deietegydd yn rhoi crynodeb i'r claf a'r atgyfeiriwr am y driniaeth faethol a ddarperir ac unrhyw argymhellion ar gyfer hunanofal yn y dyfodol. Mae cofnodion dietetig yn cael eu storio'n electronig.

Bydd rhan fwyaf o sesiynau grŵp yn cael eu cynnal yn rhithwir gan ddefnyddio fideoalwad. Gall cleifion gyrchu cymorth digidol i gefnogi gyda’r dechnoleg - gweler dolen y wefan ategol o fewn y dudalen hon. Mae mwy o fanylion ar Bwyd Doeth am Oes ar gael yn wefan Sgiliau Maeth am Oes (dolen isod yn yr adran wybodaeth Bwyta’n Iach).

 

Adnoddau cyngor a chymorth

Mae’r dolenni canlynol ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol, ddibynadwy.

 

 

Manylion cyswllt y gwasanaeth

Byddwch yn cael hysbysiad drwy’r post am eich atgyfeiriad at Ddeieteg gan Weithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol. I drefnu apwyntiadau (ar ôl i chi dderbyn y llythyr atgyfeirio hwn) cysylltwch drwy:

E-bost: Therapies.Hub.POW@wales.nhs.uk

neu

Dros y ffôn: 01686 617267

Gellir cyfeirio unrhyw Ymholiadau Cyffredinol at yr Adran Dieteteg (Y Drenewydd) yn:

E-bost: powys.dietetics@wales.nhs.uk

neu

Ffôn: 01686 617273  (Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30yb tan 4:30yp)

Sylwch na allwn roi cyngor dietegol dros y ffôn ac felly rydym yn annog defnydd o'r gwefannau uchod.

Cyfeiriad e-bost tîm Deietegwyr Iechyd Cyhoeddus:

Powys.PublicHealthDietetics@wales.nhs.uk

 

Strwythur Tîm Deieteg

Mae’r Tîm Dieteteg dan arweiniad Pennaeth y Gwasanaeth, ac mae'n cynnwys tîm o naw Deietegydd, tri Ymarferydd Cynorthwyol Deieteteg, dau Weithiwr Cymorth Atal Diabetes, a dau Weinyddwr.

 

Adborth y Claf

Fel gwasanaeth rydym bob amser yn ymdrechu i wella, ac ein huchelgais yw darparu gwasanaeth rhagorol. Mae adborth cleifion yn werthfawr iawn wrth ein galluogi i wella ein gwasanaethau yn barhaus. Rydym yn datblygu system adborth, ond yn y cyfamser rydym yn croesawu adborth gan y rhai sydd wedi defnyddio'r gwasanaeth yn y cyfeiriad e-bost canlynol:

powys.dietetics@wales.nhs.uk

 

Gwybodaeth arall

Mae Cymdeithas Dieteteg Prydain yn cefnogi Deietegwyr yn broffesiynol ac mae ganddi lawer o wybodaeth sy’n helpu’r cyhoedd gan gynnwys Taflenni Ffeithiau. Ewch i'w gwefan yn y ddolen ganlynol i ddysgu mwy:

Hafan gwefan y Gymdeithas Ddeieteg Prydain (bda.uk.com) - Gwefan Saesneg

 

Rhannu:
Cyswllt: