Neidio i'r prif gynnwy

Amserlen Gofal Cynenedigol

Menyw feichiog a

Isod fe welwch wybodaeth am eich amserlen gofal cynenedigol.

Dylai eich gofal cynenedigol ddechrau yn syth ar ôl i chi ddarganfod rydych yn feichiog. Yn ddelfrydol, dylech fod wedi cysylltu â bydwraig cyn gynted â phosibl ac erbyn 10fed wythnos eich beichiogrwydd fan bellaf, er os nad ydych wedi llwyddo i wneud hyn am unrhyw reswm, mae'n bwysig iawn eich bod yn cysylltu â gwasanaethau mamolaeth cyn gynted â phosibl. Ym Mhowys gallwch gysylltu’n uniongyrchol gyda bydwraig trwy ffonio’r canolfan alwadau ar 01874 622 443.

Os oes gennych risg isel o gymhlethdod, eich prif ofalwr fydd eich bydwraig a bydd gennych ddewis ble i fynd am eich gofal cynenedigol. Mae'r rhan fwyaf o fenywod yn derbyn eu gofal cynenedigol mewn canolfan eni neu yn eu cartref.

Os oes gennych unrhyw gymhlethdodau a allai eich rhoi chi neu'ch babi mewn perygl, bydd eich prif ofalwr yn obstetrydd a fydd yn rhannu eich gofal gyda'ch bydwraig. Efallai y bydd angen i chi dderbyn eich gofal cynenedigol mewn ysbyty cyffredinol dosbarth (DGH) cyfagos, os nodir hyn.

Bydd eich bydwraig yn cynghori a fydd angen hyn ac yn trafod eich apwyntiadau.

  • Genedigaeth yn y cartref
  • Canolfan Eni
  • Ward Genedigaeth

Ar y dechrau, bydd eich Bydwraig yn rhoi gwybod i chi am y gwahanol opsiynau ar gyfer ble y gallwch gael eich babi, gan ystyried eich hanes beichiogrwydd blaenorol a’ch hanes meddygol. Os nad oes unrhyw broblemau, bydd gennych ddewis rhwng cael eich plentyn gartref neu yn eich canolfan eni, sy’n cael ei harwain gan Fydwragedd. Os yw'ch Bydwraig yn credu bod angen gofal ychwanegol arnoch i gael eich babi, bydd yn argymell eich bod yn geni mewn Ysbyty Cyffredinol Dosbarth (DGH), lle bydd gennych fynediad i'r ystod lawn o ofal anaesthetig a bydwreigiaeth obstetrig.

Isod gallwch wylio taith o amgylch yr uned asesu dydd:

Rhannu:
Cyswllt: