Neidio i'r prif gynnwy

Ble fyddwch chi'n cael eich babi?

Babi newydd yn y pwll geni

Gall ble i eni eich plentyn ymddangos yn benderfyniad anodd, gyda llawer o bethau i'w hystyried, neu gall ymddangos yn syml ac yn amlwg o'r cychwyn – ac efallai y gwelwch fod gan lawer o bobl farn am ble y dylech chi roi genedigaeth!

Eich penderfyniad chi yw dewis ble i roi geni i’ch plentyn. Yn gyffredinol, mae rhoi genedigaeth yn ddiogel iawn i fenywod yn y DU ac mae'n bwysig eich bod yn cael cynnig dewis o ble i gael eich babi. Gallwn roi cyngor i chi, ond eich penderfyniad chi yw'r penderfyniad terfynol.

Yn eich apwyntiad cyntaf, bydd eich Bydwraig yn rhoi gwybod i chi am y gwahanol opsiynau ar gyfer ble y gallwch gael eich babi, gan ystyried eich hanes beichiogrwydd blaenorol ac unrhyw broblemau meddygol.

Os nad oes unrhyw broblemau, bydd gennych ddewis rhwng cael eich plentyn gartref neu yn eich canolfan eni, sy’n cael ei harwain gan Fydwragedd, neu yn ysbyty cyffredinol dosbarth cyfagos.

Os yw eich Bydwraig yn credu bod angen gofal ychwanegol arnoch, bydd yn argymell eich bod yn geni mewn uned obstetrig yn ysbyty cyffredinol dosbarth, lle bydd gennych fynediad i ofal anaesthetig a bydwreigiaeth obstetrig.

Bydd trafodaethau ynghylch ble i gael eich babi yn digwydd drwy gydol eich beichiogrwydd, a gall cyngor newid os bydd eich amgylchiadau iechyd neu feichiogrwydd yn newid.

Bydd eich bydwraig yn sbarduno trafodaeth cynllun geni llawn gyda chi a'ch partner/partneriaid genedigaeth tua phwynt 36 wythnos o’ch beichiogrwydd, er os yw eich beichiogrwydd yn syml, gallwch adael y penderfyniad ar ble i roi genedigaeth nes eich bod yn cael eich babi os yw'n well gennych.

Rydym yn seilio ein cyngor a thrafodaethau gyda chi ar y dystiolaeth orau sydd ar gael.  Mae hyn yn cynnwys Astudiaeth y Man Geni (Birthplace in England Research Programme | NPEU (ox.ac.uk) a ddangosodd yn bendant bod lleoliadau geni dan arweiniad bydwragedd (canolfannau geni ac yn y cartref) yr un mor ddiogel i fabanod â genedigaeth ysbyty, ac yn cynnig manteision sylweddol o ran canlyniadau i famau.

Mae’r penderfyniadau ynghylch ble i roi genedigaeth yn bersonol i chi. Mae rhaid i chi benderfynu pa agweddau sy’n bwysig i chi. Gall y rhain fod ar sail nifer o agweddau megis pellter, amgylchedd geni, neu opsiynau meddyginiaeth lleddfu poen.

Os ydych chi'n ei gweld hi'n anodd dewis ble i gael eich babi gallwch oedi cyn penderfynu tan yn hwyr yn eich beichiogrwydd, nid oes angen penderfynu yn ystod eich apwyntiad cyntaf, er y bydd eich bydwraig yn cyflwyno'r opsiynau i chi.

Rhannu:
Cyswllt: