Mae'r ddyletswydd ansawdd wedi bod mewn grym ers 1 Ebrill 2023.
Mae’n berthnasol i holl gyrff y GIG yng Nghymru. Mae hefyd yn berthnasol i Weinidogion Cymru mewn perthynas â'u swyddogaethau iechyd.
Mae gan y Ddyletswydd ddau brif nod:
Mae'r ddyletswydd ansawdd yn berthnasol i bopeth a wnawn yn GIG Cymru, gan gynnwys os ydym yn gweithio mewn rolau clinigol neu wasanaethau anghlinigol.
Mae gennym ni gyd gyfrifoldeb i sicrhau gwell ansawdd gwasanaethau a chanlyniadau i'n poblogaeth.
Mae'r Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal wedi eu datblygu i'n helpu ni ymgorffori'r ddyletswydd ansawdd yn ein gwaith. Mae'r Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal yn cynnwys chwe pharth o ansawdd a chwe galluogwr o ansawdd.
Mae Dyletswydd Ansawdd yn cynnwys gofyniad i ni gyhoeddi gwybodaeth am ansawdd y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu a'u comisiynu ar eich rhan.
Rydym yn cyhoeddi'r wybodaeth hon mewn nifer o ffyrdd:
Adroddiadau Dyletswydd Ansawdd Blynyddol
Adroddiad Blynyddol Dyletswydd Ansawdd 2023-2024
Mae fideo byr ar gael isod sy’n esbonio beth mae'r Ddyletswydd Ansawdd yn ei olygu i bob un ohonom.
Mae rhagor o wybodaeth am Ddyletswydd Ansawdd, gan gynnwys y canllawiau statudol y mae'n ofynnol i'r GIG eu dilyn, ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Gwybodaeth genedlaethol am ansawdd gwasanaethau iechyd
Dyma rai adnoddau o wybodaeth genedlaethol am ansawdd gwasanaeth iechyd yng Nghymru: