Neidio i'r prif gynnwy

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys bellach yn defnyddio gwasanaethau Sign Live!

Gwasanaeth cyfnewid fideo yw Sign Live sy'n caniatáu i ddefnyddwyr ein gwasanaethau ein ffonio a chael eu cysylltu â dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain cymwys a chofrestredig, a fydd wedyn yn trosglwyddo'r wybodaeth dros y ffôn i'n staff.

Mae'r ap Sign Live hefyd yn cynnig gwasanaethau cyfieithu ar y pryd BSL i gynorthwyo cyfathrebu wyneb i wyneb pan fo angen. 

I ddysgu mwy, ewch i: Home - SignLive

Mae'r gwasanaeth ar gael trwy'r ap Sign Live:

SignLive 2.0 on the App Store (apple.com)

SignLive 2.0 – Apps on Google Play

"Rydym yn falch iawn o ddarparu'r gwasanaeth amhrisiadwy yma i drigolion Powys. Mae Sign Live yn hawdd ei gyrchu ac mae'n offeryn cyfathrebu effeithiol iawn. Y cwbl sydd rhaid i chi wneud yw ein ffonio ni drwy'r ap a chael eich cysylltu â chyfieithydd ar y pryd BSL a'n prif switsfwrdd." – Adam Pearce, Arweinydd Gwasanaethau’r Gymraeg a Chydraddoldebau

Rhannu:
Cyswllt: