Neidio i'r prif gynnwy

Rhowch gynnig ar gerdded ystyriol ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl

Delwedd o fenyw yn cerdded drwy

Mae'n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, a'r thema eleni yw 'Symudiad – Symud ar gyfer ein Hiechyd Meddwl'.

Gall symud yn fwy rhoi hwb i'ch lefelau egni, lleihau straen a gwella eich hunanhyder.

Nid yw hynny o reidrwydd yn golygu rhedeg marathon neu ddringo Everest - i chi, gallai fod yn rhywbeth mor syml ag ymestyn wrth eich desg yn y swyddfa neu wneud rhai ymarferion ar gadair wrth wylio'r teledu.

Un ffordd syml, am ddim ac effaith isel o fod yn fwy egnïol yw mynd am dro: mae'n dda i'r corff a'r meddwl, gwella iechyd y galon a phwysedd gwaed, a lleihau teimladau o orbryder ac iselder hefyd. Os gallwch chi ei wneud ym myd natur, gorau oll: mae ymchwil yn dangos bod mannau gwyrdd a glas fel parciau, coetiroedd a dyfrffyrdd yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a lles.

I fynd un cam ymhellach, ceisiwch ymarfer rhywfaint o ymwybyddiaeth ofalgar wrth i chi gerdded i frwydro yn erbyn straen ac ymlacio hyd yn oed yn fwy.

Yn syml, mae ymwybyddiaeth ofalgar yn golygu bod yn y presennol, bod yn ymwybodol o'n hamgylchedd a'n teimladau, a dysgu sut i deimlo heddwch â'n hemosiynau yn lle ymladd neu eu barnu.

Mae'n fath o fyfyrdod - un y gall unrhyw un ei wneud, hyd yn oed os mai dim ond ychydig funudau sydd gennych i'w sbario.

Mae rhaglenni hunangymorth ar-lein SilverCloud ar gyfer materion iechyd meddwl ysgafn i gymedrol - sy'n cwmpasu straen, gorbryder, problemau cwsg a mwy - yn cynnwys casgliad o offer ymwybyddiaeth ofalgar, gan gynnwys canllaw MP3 y gellir ei lawrlwytho ar gyfer cerdded yn ystyriol.

Os ydych chi am roi cynnig ar gerdded ystyriol, cofiwch nid pen y daith sy’n bwysig ond y daith ei hun.

Rydyn ni'n aml yn symud heb hyd yn oed sylweddoli, yn rhuthro o gwmpas, yn gweld tasgau sydd rhaid i ni eu gwneud, ond er mwyn mynd am dro ystyriol, rhaid i chi aros yn y foment.

 

Dyma ychydig o awgrymiadau:

 

  •    Dewiswch rywle lle na fydd neb yn tarfu arnoch a lle gallwch ganolbwyntio ar eich taith gerdded.

 

  • Cyn i chi gychwyn, meddyliwch sut mae corff yn teimlo a chydnabod y meddyliau sy'n rhedeg trwy'ch meddwl.

 

  • Wrth i chi gerdded, meddyliwch am y teimlad o'r ddaear dan eich traed a'r aer ar eich croen.

 

  • Sylwch ar sut rydych chi'n anadlu. Ceisiwch sylweddoli ar y golygfeydd, yr arogleuon a'r synau o'ch cwmpas, a sut maen nhw'n gwneud i chi deimlo.

 

  • Pan fyddwch chi'n barod i orffen eich myfyrdod cerdded, cymerwch seibiant a dewiswch foment i ddod â'r ymarfer i ben.

 

Gwella eich iechyd meddwl ac ennill offer parhaol i roi hwb i'ch lles gyda chymorth ar-lein am ddim gan GIG Cymru. Cofrestrwch i SilverCloud yma: nhswales.silvercloudhealth.com/signup/

 

Rhyddhau: 13/05/2024

Rhannu:
Cyswllt: