Mae disgwyl i'r uned pelydr-X yn Ysbyty'r Trallwng ailagor ddydd Gwener Ionawr 24ain gyda'r unedau yn Ystradgynlais a Llandrindod yn ailagor ychydig wythnosau'n ddiweddarach.
Mae gwaith i osod £1.7m o offer pelydr-X o'r radd flaenaf yn ysbytai cymunedol Powys bellach ar y gweill ac mae ar y targed i'w orffen yn y Gwanwyn.
Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gosod unedau pelydr-X newydd a fydd yn cynhyrchu delweddau clirach ac yn gyflymach nag erioed.
Wrth i'r Trallwng ailagor, bydd uned pelydr-X Y Drenewydd yn cau dros dro ar Ionawr 23ain am 5yh er mwyn gosod yr offer newydd yno.
Yn ogystal â darparu canlyniadau cyflymach a diagnosis mwy cywir, bydd hefyd yn helpu lleihau amseroedd aros ar gyfer pelydrau-X. Bydd hyn yn ei dro yn gwella mynediad at driniaeth. Mae'r peiriannau pelydr-X newydd hyn yn defnyddio dos is o ymbelydredd na'r peiriannau presennol, sydd yn ei dro yn lleihau amlygiad ymbelydredd i gleifion.
Dechreuodd y cam cyntaf fis Tachwedd ac mae'n gweld offer newydd yn cael ei osod mewn ysbytai cymunedol yn Ystradgynlais, Llandrindod a'r Trallwng. Er bod y gwaith hwn yn cael ei wneud, mae'r adrannau pelydr-X yn yr ysbytai hyn ar gau ac mae cleifion sydd angen pelydr-X yn cael eu hailgyfeirio i ysbyty cymunedol arall y bwrdd iechyd.
Dywedodd Claire Madsen, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Gwyddorau Iechyd ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys: "Hoffwn ddiolch i bawb am eu hamynedd wrth i ni wneud yr uwchraddiadau hyn. Mae disgwyl i'r Trallwng ailagor ar Ionawr 24ain tra bod disgwyl i Ystradgynlais a Llandrindod ailagor ganol Chwefror.
Unwaith y bydd cam cyntaf y gwaith gosod wedi'i gwblhau a'r tair adran pelydr-X hyn yn ailagor, bydd ail gam ailosod offer pelydr-x yn dechrau a disgwylir i hyn gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth.
Ychwanegodd Ms Madsen: "Hoffwn atgoffa pawb, er bod y tair adran pelydr-X hyn ar gau ar hyn o bryd, na fydd gwasanaethau radioleg eraill yn yr ysbytai hyn - fel uwchsain - yn cael eu heffeithio yn ystod y cyfnod hwn ac y byddant yn parhau i fod ar gael. Dylwn hefyd nodi, os oes gennych mân anaf yna rydym yn parhau i'ch annog chi i ffonio'n gyntaf am gyngor clinigol. Bydd ein tîm clinigol yn gallu rhoi cyngor dros y ffôn i'ch helpu chi gael y driniaeth sydd ei hangen arnoch."
Rhifau ffôn yr Unedau Mân Anafiadau yn yr ysbytai yw:
Llun: Offer wedi ei osod yn newydd yn Ysbyty Coffa Victoria yn Y Trallwng.