Neidio i'r prif gynnwy

Y Camau Nesaf ar Ymgysylltu Newidiadau Dros Dro i Wasanaethau

Logo Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Mae ein hymgysylltiad ar gynigion ar gyfer rhai newidiadau dros dro i wasanaethau ar Unedau Mân Anafiadau a gwelyau cleifion mewnol yn ysbytai cymunedol Powys bellach wedi cau.  

Mae'r gwaith dadansoddi bellach ar y gweill, a hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cymryd yr amser i roi eu barn.

Byddwn yn llunio adroddiad cynhwysfawr a fydd yn cynnwys manylion yr adborth a dderbyniwyd ac argymhellion. Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei drafod yn gyhoeddus mewn cyfarfod o'r Bwrdd ddydd Iau 10 Hydref.  Bydd yr agenda a'r papurau ar gael ymlaen llaw.

 

Rhyddhawyd: 11/09/2024

 

 

 

Rhannu:
Cyswllt: