Neidio i'r prif gynnwy

Profiad Gwaith

Merch ifanc mewn gwisg mewn lleoliad ward

Ym Mhowys rydym wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad y genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Rydym yn gweithio'n agos gydag ysgolion, colegau a Gyrfaoedd Cymru lleol i hyrwyddo'r gwahanol gyfleoedd gwaith ym maes gofal iechyd, gyda'n staff yn mynychu digwyddiadau gyrfaoedd i ddweud wrthych chi beth gallech ddisgwyl wrth weithio i GIG Cymru.

I'r rhai ohonoch sy'n ystyried gweithio ym maes gofal iechyd, ond nad ydych chi'n hollol siŵr pa opsiynau sydd gennych chi, gallwn ni hefyd ddarparu profiad gwaith i'ch helpu chi i benderfynu pa swydd allai fod yn iawn i chi.

Sylwch fod rhai meysydd lle na allwn, oherwydd oedran, gynnig profiad gwaith i chi.

Os hoffech wneud cais am brofiad gwaith gyda ni, bydd angen i chi lenwi'r ffurflen gais a'r holiadur iechyd a geir yn y pecyn gwybodaeth ar y dde.

Dyma beth mae rhai o'n pobl profiad gwaith blaenorol wedi'i ddweud am eu hamser ym Mhowys:

“Yr haf diwethaf fe roesoch chi wythnos o brofiad gwaith i mi. Hoffwn ddweud wrthych ei fod yn hynod ddefnyddiol, nid yn unig i mi, ond ar gyfer fy nghais hefyd, gan imi lwyddo i gael cynnig ... ar ddiwedd y dydd byddaf yn feddyg, felly roeddwn wrth fy modd. Ni allaf ddiolch digon i chi am eich help ac roedd y dyddiau a dreuliais ar brofiad gwaith yn hynod fuddiol, ac ni allaf fynegi pa mor ddiolchgar ydw i. "

“Trwy gydol fy lleoliad rwyf wedi ennill profiad a hyder wrth gyflawni fy nyletswyddau fel rhan o'r tîm Porthorion. Rwy’n gobeithio defnyddio fy mhrofiad mewn cyflogaeth yn y dyfodol ac i weithio’n dda fel rhan o dîm.”

Os hoffech wybod mwy am y lleoliad myfyrwyr neu'r cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael ichi ym Mhowys, e-bostiwch Powys.workforcegeneralenquiries@wales.nhs.uk

 


Cyngor Sir Powys

I gael gwybodaeth am gyfleoedd profiad gwaith gyda Chyngor Sir Powys, ewch i'w gwefan: https://cy.powys.gov.uk/article/7018/Profiad-Gwaith

Rhannu:
Cyswllt: