O fis Rhagfyr 2025 ymlaen, bydd categorïau Oren, Melyn a Gwyrdd newydd yn disodli'r categorïau Ambr a Gwyrdd presennol.
Eich Gwasanaethau Iechyd yn digwydd rhwng Tachwedd a Chwefror
Bydd cyfarfodydd yn cael eu darlledu’n fyw a’u lanlwytho at YouTube ar ôl y cyfarfod.
Ymwrthedd i wrthfiotigau yw un o’r bygythiadau mwyaf sy’n ein hwynebu. Defnyddir gwrthfiotigau i drin heintiau a achosir gan facteria ond, bob tro rydyn ni’n eu cymryd, rydyn ni’n rhoi cyfle i’r bacteria ymladd yn ôl.
Pan fydd eich triniaeth ysbyty wedi gorffen, y lle gorau i chi wella yw gartref
Rydym yn falch iawn o fod wedi croesawu ein carfan ddiweddaraf o chwe nyrs sydd wedi'u hyfforddi'n rhyngwladol i Ysbyty Aberhonddu. Mae Sheeja, Reshma, Sibi, Jayalekshmi, Abida ac Ardra i gyd o India ac fe symudon nhw i'r DU yn gynharach eleni. Mae'r chwech wedi ymgartrefu yn Aberhonddu yn hynod o dda ac yn gweithio ar ward Y Bannau yn yr ysbyty.
Mae'r hydref wedi cyrraedd a'r gaeaf ar y ffordd. Mae'n amser gwych i gadw'n gynnes ac ymlacio, ond i lawer gall y dyddiau byrrach a'r nosweithiau hirach effeithio ar gwsg.
Bob blwyddyn ar yr 11eg o Dachwedd, rydym yn dod at ein gilydd, wedi ein huno mewn cof, i anrhydeddu pawb sydd wedi gwasanaethu, dioddef ac aberthu yng ngwrthdaro rhyfel, a'r personél sy'n parhau i wasanaethu gyda dewrder ac ymroddiad.
Gall dim ond ychydig o arferion bach bob dydd fynd yn bell tuag at eich cadw chi a'ch anwyliaid yn ddiogel.
Mae menywod, rhieni ac aelodau o'r teulu yn cael eu hannog i rannu eu profiadau diweddar o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol fel rhan o asesiad cenedlaethol o'u diogelwch.
Nid yw ychydig o straen yn beth drwg - mae'n ymateb naturiol i sefyllfaoedd heriol, a ffordd y corff o ymateb i bwysau, gan sbarduno newidiadau corfforol ac emosiynol sy'n ein helpu ni ymdopi.
Mae cynigion ar gyfer hyb iechyd a lles yng nghanol y Drenewydd ar gael nawr yn www.powyswellbeing.wales a hoffem glywed eich barn.
Bydd eich barn yn helpu llunio cais am gyllid o £30 miliwn, a ddisgwylir i’w gyflwyno gan Gyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i Lywodraeth Cymru y gaeaf hwn. Os caiff ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru - ac yn amodol ar ganiatâd cynllunio - gallai'r ganolfan newydd agor o fewn tair blynedd.
Mae Wythnos Ymwybyddiaeth o Golli Babi (9–15 Hydref) yn ddathliad blynyddol sydd wedi ymrwymo i gofio babis a fu farw yn ystod beichiogrwydd, wrth eni, neu yn ystod cyfnod babandod, gan godi ymwybyddiaeth o effeithiau emosiynol, corfforol a systemig colledion o'r fath.
Rydym wedi diweddaru ein Achos dros Newid i adlewyrchu’r adborth a glywsom gennych.
I helpu I ddiogelu ein cleifion a’n hymwelwyr, rydym yn gofyn I bawb feddwl yn ofalus cyn ymweld a’n hysbytai.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra tra bod gwaith cynnal a chadw hanfodol yn digwydd yng Nghanolfan Geni'r Trallwng.
Mae'r fenter celfyddydau ac iechyd Mynegwch Eich Hun, dan arweiniad Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP), wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Rhagoriaeth mewn Adsefydlu yng Ngwobrau Hyrwyddo Gofal Iechyd Cymru 2025.
Bellach gall defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ym Mhowys ddefnyddio Convo (SignLive gynt) i gysylltu â'u meddyg teulu, deintydd, optegydd neu fferyllfa GIG lleol.