Efallai eich bod yn cofio ein bod, yn ystod 2018, wedi gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i geisio eich barn ar gynigion sy'n effeithio ar ddyfodol gwasanaethau ysbyty cyffredinol yn ardal Hywel Dda (Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro).
Yn dilyn yr ymgynghoriad hwnnw, fe wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda benderfyniadau allweddol fydd yn effeithio ar sut mae pobl ym Mhowys yn cael mynediad at wasanaethau ysbyty yn ardal Hywel Dda yn y dyfodol. Yn benodol, fe gytunon nhw yn eu hymgynghoriad:
- Bydd Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin ac Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd yn cael ei ail-bwrpasu fel ysbytai cymunedol. Bydd y ddau yn darparu 24/7 canolfan gofal brys dan arweiniad meddygon teulu. Bydd ganddyn nhw gyfleusterau ar gyfer gweithdrefnau achos dydd, yn ogystal â therapi a gwelyau sy'n cael eu harwain gan nyrsys ar gyfer anghenion critigol sy’n llai difrifol ac adsefydlu. Bydd cymorth diagnostig (pelydr-x, uwchsain ac ati) yn parhau, yn ogystal â chleifion allanol a chlinigau eraill. Bydd y gwasanaethau mwy arbenigol ar gyfer gofal brys ac wedi'i gynllunio sy'n cael ei ddarparu ar hyn o bryd yn ysbytai Glangwili a Llwynhelyg yn cael eu darparu yn y dyfodol mewn ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd. Bydd yn darparu gwasanaethau plant arbenigol, oedolion, ac iechyd meddwl, a bydd yn gweithredu fel yr Uned Drawma a'r brif Adran Achosion Brys yn ardal Hywel Dda.
- Ni fydd newidiadau sylweddol i wasanaethau yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth. Bydd yn parhau i ddarparu gwasanaethau gofal brys a gofal wedi'i gynllunio ar gyfer cymunedau yng ngogledd orllewin Powys. Bydd y cleifion hynny o Ysbyty Bronglais sy'n cael eu trosglwyddo i Ysbyty Glangwili ar hyn o bryd ar gyfer gofal mwy arbenigol yn cael eu trosglwyddo i'r Ysbyty Gofal Brys ac Arfaethedig newydd yn y dyfodol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda bellach yn gofyn am farn ar dri safle posib ar gyfer yr ysbyty gofal arfaethedig a brys newydd - dau ger Hendy-gwyn ac un ger Sanclêr.
Nid oes ganddynt safle sy'n cael ei ffafrio, ac nid ydynt wedi prynu unrhyw safle na thir ar gyfer y datblygiad hwn. Mae prynu safle a darparu'r Ysbyty Gofal Brys a Chynlluniedig newydd yn amodol ar gyllid Llywodraeth Cymru, sydd heb ei gadarnhau eto, ac os yw'n llwyddiannus, byddai'n cymryd sawl blwyddyn i'w gyflawni. Yn y cyfamser, rydym am sicrhau eich bod yn cael gwybodaeth o hyd am newidiadau posibl a sut y gallent effeithio arnoch yn y dyfodol, ac i roi cyfle i chi ddweud eich dweud.
Yn ystod yr ymgynghoriad, maen nhw'n gofyn am adborth gan bob aelod o'r cyhoedd - gan gynnwys pobl ym Mhowys sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd yn ardal Hywel Dda.
Bydd digwyddiad galw heibio cyhoeddus yn Aberystwyth ar 21 Ebrill ac yn Llanymddyfri ar 9 Mai.
Gallwch ddarganfod mwy a dweud eich dweud erbyn 19 Mai ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: https://biphdd.gig.cymru/safle-ysbyty-newydd/. Mae’r wefan yn cynnwys manylion am yr ymgynghoriad, gan gynnwys gwybodaeth am sesiynau galw heibio cyhoeddus, copïau o'r dogfennau ymgynghori mewn amryw fformatau, a manylion am sut i rannu eich barn.