Mae timau o frechwyr ar draws Canolfannau Brechu Torfol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi darparu dros 30,000 brechlyn COVID-19 am ddim yn barod fel rhan o ymgyrch brechiadau anadlol y gaeaf. Brechu yw ein hamddiffyniad gorau yn erbyn feirysau y Gaeaf hwn.
Daeth y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan AS, i ymweld â'r Ganolfan Brechu Torfol yn Ysbyty Bronllys yn ddiweddar. Yn ystod ei hymweliad siaradodd am bwysigrwydd y brechiadau COVID-19 a'r ffliw gan annog pawb sy'n gymwys i fanteisio ar eu cynnig brechu.
Wrth siarad am frechlyn COVID-19, meddai: “Os ydych yn gymwys, dylech fod wedi derbyn eich gwahoddiad erbyn diwedd mis Tachwedd. Gwnewch eich gorau glas i fynychu'r apwyntiad rydyn ni wedi ei gynnig i chi, gan y bydd hwn yn ein helpu cynnig brechiadau atgyfnerthu i bawb cyn gynted â phosibl.”
Mae’r ymgyrch brechiadau anadlol y gaeaf yn cynnwys brechiadau ar gyfer grwpiau o bobl mewn perygl o COVID-19 a’r ffliw. Ar draws y sir mae aelodau'r cyhoedd sy'n cael eu hystyried mewn perygl mwyaf o ganlyniad i haint COVID-19, gan gynnwys cleifion mewnol, preswylwyr mewn lleoliadau gofal cymdeithasol, pobl dros 50 oed a staff y bwrdd iechyd a chartrefi gofal, bellach wedi cael eu brechu.
Dywedodd Mererid Bowley, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys: “Mae COVID-19 a’r Ffliw yn lledaenu nawr. Brechu yw'r ffordd gorau y gallwch amddiffyn eich hun rhag yr effeithiau difrifol bosibl o haint yn sgil COVID-19 a'r ffliw. Rydym yn gwybod o brofiad gall y ddau haint ladd, ond mae ein canolfannau Brechu Torfol a Meddygfeydd ar draws y sir yn gweithio gyda'i gilydd yn ddi-dor i ddiogelu'r cyhoedd.
"Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn galw ar bob oedolyn cymwys, gan gynnwys aelodau o grwpiau risg, i fanteisio ar y cyfle i gael brechlyn COVID-19, tra bod meddygfeydd yn gweithio'n galed i ddosbarthu gwahoddiadau a darparu brechlynnau ffliw hefyd. Mae ein rhestr wrth gefn COVID-19 nawr ar agor i bobl dros 50 oed yn y sir sydd wedi cofrestru gyda Meddyg Teulu ym Mhowys ac sy'n gallu teithio ar fyr rybudd i'n Canolfannau Brechu Torfol yn y Drenewydd, Llandrindod neu Bronllys. Os ydych chi’n bodloni’r uchod, yna gofrestrwch yn https://biap.gig.cymru/homepage-pop-up-cy/rhestr-wrth-gefn/.”
Mae ymgyrch brechiadau anadlol y gaeaf yn annog pawb i 'Ailwefru’ch Amddiffyniad' rhag salwch difrifol o ganlyniad i COVID-19 a'r Ffliw.
Parhaodd Eluned Morgan trwy ddweud: “Mae brechiad rhag y ffliw ar gael i chi os ydych yn: 50 oed neu'n hŷn; yn blentyn 2 i 16 oed; yn feichiog; neu rhwng 2 a 49 oed gyda chyflwr iechyd hirdymor sy'n eich rhoi mewn perygl uwch o'r ffliw. Os nad ydych wedi cael brechlyn y ffliw ac rydych yn gymwys, cysylltwch â’ch Meddyg teulu am fwy o fanylion.”
Mae'r brechlyn ffliw eleni yn arbennig o bwysig, gan fod arbenigwyr Iechyd y Cyhoedd yn rhagweld tymor ffliw sylweddol y gaeaf hwn am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig. Mae pryderon y gall y ffliw ddechrau yn gynharach eleni ac effeithio ar fwy o bobl. O ganlyniad i hyn, mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys nawr yn annog unrhyw un sy'n gymwys i gael y brechlyn ffliw am ddim i fanteisio ar y cynnig i ddiogelu eu hun a phobl eraill rhag salwch difrifol y gaeaf hwn.
Cyhoeddwyd: 25/10/2022