Neidio i'r prif gynnwy

5 awgrym da ar gyfer ymdopi â straen diwrnod canlyniadau

Llun o Teenager yn dangos canlyniadau arholiadau i riant mewn ystafell flaen

Gall diwrnod canlyniadau arholiadau fod yn brofiad nerfus i fyfyrwyr, ond beth bynnag yw eich graddau, dim ond un cam ar eich taith addysg ydyn nhw.

Wrth i chi baratoi ar gyfer y diwrnod mawr, dyma bum awgrym i'ch helpu chi reoli eich emosiynau.

 

Arhoswch yn Gadarnhaol

Cadwch feddylfryd cadarnhaol. Cofiwch nad yw un set o ganlyniadau yn diffinio eich dyfodol na'ch gwerth. Beth bynnag yw’r canlyniadau, cofiwch ganolbwyntio ar eich cryfderau.

 

Paratowch ar Gyfer Canlyniadau Gwahanol

Gallwch deimlo mwy o reolaeth drwy roi rhywfaint o ystyriaeth i'r canlyniadau posibl a gwneud cynllun bras ar gyfer pob un. Gwnewch ymchwil ar wahanol opsiynau fel ail-eistedd, cyrsiau gwahanol, neu lwybrau gyrfa eraill a chofiwch fod sawl ffordd o wireddu eich breuddwydion.

 

Siaradwch â Rhywun

Gall rhannu sut rydych chi'n teimlo helpu lleddfu straen, felly siaradwch â theulu, ffrindiau neu athro dibynadwy. Peidiwch ag oedi cyn ceisio cymorth proffesiynol os yw'ch gorbryder yn teimlo'n llethol. Chwiliwch am dîm lles eich coleg, neu edrychwch isod am wybodaeth ar sut i gyrchu rhaglenni cymorth ar-lein GIG Cymru ar unwaith.

 

Arhoswch yn Brysur i Dynnu eich Sylw i Ffwrdd

Ceisiwch gymryd rhan mewn gweithgareddau rydych chi'n eu mwynhau i dynnu eich meddwl oddi ar y canlyniadau. Gall ymarfer corff, hobïau, a threulio amser gyda ffrindiau fod yn ffordd dda o leddfu straen.

 

Cynlluniwch Weithgaredd ar ôl y Diwrnod Canlyniadau

Trefnwch rywbeth hwyl neu ymlacio ar ôl i chi dderbyn eich canlyniadau - ni waeth beth yw’r canlyniad - trefnwch rywbeth cadarnhaol i chi edrych ymlaen ato. Gall gwneud cynlluniau helpu cadw eich ysbryd yn uchel a thynnu eich sylw oddi wrth unrhyw straen.

 

Mae SilverCloud® Cymru yn darparu ystod o raglenni cymorth ar-lein dan arweiniad i helpu gyda symptomau ysgafn i gymedrol o straen, gorbryder, iselder a mwy. Os ydych chi'n rhiant sy'n cefnogi plentyn neu berson ifanc gorbryderus, mae help ar gael i chi hefyd. Does dim rhestrau aros, does dim angen atgyfeiriad meddyg teulu a byddwch yn cael cydlynydd i'ch cefnogi drwy'r rhaglen.

Darganfyddwch fwy a chofrestrwch ar-lein: https://nhswales.silvercloudhealth.com/signup/

 

Rhyddhawyd: 14/08/2024