Gall diwrnod canlyniadau arholiadau fod yn gyfnod llawn straen ac emosiynol, ond mae'n bwysig cofio mai dim ond un rhan o'ch taith yw eich graddau. Nid ydynt yn eich diffinio chi, ac nid nhw yw'r stori gyfan.
Wrth i'r diwrnod mawr agosáu, ceisiwch aros yn dawel eich meddwl a gofalu am eich lles. Gall y pum awgrym ymarferol hyn eich helpu chi reoli eich emosiynau ac aros yn gadarn.
Os ydych chi'n dal i deimlo'n llethol, mae SilverCloud Cymru yn cynnig cymorth ar-lein cyfrinachol, am ddim i bobl ifanc a rhieni. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun.
Arhoswch yn Gadarnhaol
Cadwch feddylfryd cadarnhaol. Cofiwch nad yw un set o ganlyniadau yn diffinio eich dyfodol na'ch gwerth. Beth bynnag yw’r canlyniadau, cofiwch ganolbwyntio ar eich cryfderau.
Paratowch ar Gyfer Canlyniadau Gwahanol
Gallwch deimlo mwy o reolaeth drwy roi rhywfaint o ystyriaeth i'r canlyniadau posibl a gwneud cynllun bras ar gyfer pob un. Gwnewch ymchwil ar wahanol opsiynau fel ail-eistedd, cyrsiau gwahanol, neu lwybrau gyrfa eraill a chofiwch fod sawl ffordd o wireddu eich breuddwydion.
Siaradwch â Rhywun
Gall rhannu sut rydych chi'n teimlo helpu lleddfu straen, felly siaradwch â theulu, ffrindiau neu athro dibynadwy. Peidiwch ag oedi cyn ceisio cymorth proffesiynol os yw'ch gorbryder yn teimlo'n llethol. Chwiliwch am dîm lles eich coleg, neu edrychwch isod am wybodaeth ar sut i gyrchu rhaglenni cymorth ar-lein GIG Cymru ar unwaith.
Arhoswch yn Brysur i Dynnu eich Sylw i Ffwrdd
Ceisiwch gymryd rhan mewn gweithgareddau rydych chi'n eu mwynhau i dynnu eich meddwl oddi ar y canlyniadau. Gall ymarfer corff, hobïau, a threulio amser gyda ffrindiau fod yn ffordd dda o leddfu straen.
Cynlluniwch Weithgaredd ar ôl y Diwrnod Canlyniadau
Trefnwch rywbeth hwyl neu ymlacio ar ôl i chi dderbyn eich canlyniadau - ni waeth beth yw’r canlyniad - trefnwch rywbeth cadarnhaol i chi edrych ymlaen ato. Gall gwneud cynlluniau helpu cadw eich ysbryd yn uchel a thynnu eich sylw oddi wrth unrhyw straen.
Mae SilverCloud® Cymru yn darparu ystod o raglenni cymorth ar-lein dan arweiniad i helpu gyda symptomau ysgafn i gymedrol o straen, gorbryder, iselder a mwy. Os ydych chi'n rhiant sy'n cefnogi plentyn neu berson ifanc gorbryderus, mae help ar gael i chi hefyd. Does dim rhestrau aros, does dim angen atgyfeiriad meddyg teulu a byddwch yn cael cydlynydd i'ch cefnogi drwy'r rhaglen.
Darganfyddwch fwy a chofrestrwch ar-lein: https://nhswales.silvercloudhealth.com/signup/
Rhyddhawyd: 11/08/2025