Neidio i'r prif gynnwy

5 awgrym i'ch helpu i "Rheoli Eich Sgrôl" ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl Ieuenctid 2024

Menyw yn eistedd wrth y ffenestr a

Sawl gwaith ydych chi wedi mynd ar goll i lawr twll diddiwedd y cyfryngau cymdeithasol? Ym myd digidol heddiw, mae'n hawdd colli'ch ffordd a mynd yn sownd yn y sgrôl, ac er y gall cyfryngau cymdeithasol ein helpu gwneud cysylltiadau gwych, gall hefyd effeithio'n negyddol ar ein hiechyd meddwl.

Os ydych chi'n teimlo'n orbryderus, rhowch gynnig ar yr awgrymiadau hyn i helpu 'rheoli eich sgrôl', a chofiwch fod digon o wasanaethau defnyddiol, cadarnhaol yn y gofod ar-lein. Er enghraifft, os oes angen cymorth arnoch gyda gorbryder, straen, iselder ysgafn i gymedrol a mwy, gallwch gyrchu therapi ar-lein am ddim drwy GIG Cymru. Mwy o wybodaeth isod.

1. Gosod Terfynau Amser

Cyfyngwch ar yr amser rydych chi’n ei dreulio tu ôl i sgrin er mwyn osgoi syrthio i fagl sgrolio diddiwedd. Gall apiau fel "Screen Time" ar gyfer iOS neu "Digital Wellbeing" ar gyfer Android eich helpu i osod terfynau dyddiol a chadw llygad ar eich defnydd. Drwy reoli amser ar-lein, byddwch yn cael mwy o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau all-lein sy'n hybu eich lles.

2. Addasu Beth Allwch Chi Weld

Byddwch yn gyfrifol am yr hyn y gallwch weld trwy ddilyn cyfrifon sy'n eich ysbrydoli ac yn codi eich calon. Dad-ddilynwch neu dawelu cyfrifon sy'n gwneud i chi deimlo'n orbryderus, annigonol, neu dan straen. Dylai eich cyfryngau cymdeithasol adlewyrchu eich gwerthoedd a'ch diddordebau, nid eich tynnu i lawr.

3. Ymgysylltu'n Ystyriol

Pan fyddwch chi'n rhyngweithio ar gyfryngau cymdeithasol, gwnewch hynny'n ystyriol. Ceisiwch osgoi cymharu'ch hun ag eraill neu gael eich dal mewn drama ar-lein. Yn hytrach, canolbwyntiwch ar gysylltiadau ystyrlon, rhannu positifrwydd, a meithrin perthnasoedd i helpu adeiladu cymuned ar-lein iachach a mwy cefnogol.

4. Gwasgu adnewyddu gyda detocs digidol

Cymerwch seibiannau rheolaidd o'r cyfryngau cymdeithasol i ailgysylltu â chi'ch hun a'r byd o'ch cwmpas. Boed hynny am benwythnos, diwrnod, neu ychydig oriau yn unig, gall camu'n ôl eich helpu ailosod a chael persbectif newydd ar sut rydych chi'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol.

5. Ceisio Cymorth Pan Fo Angen

Os yw'r cyfryngau cymdeithasol yn dechrau teimlo'n llethol, peidiwch ag oedi cyn estyn allan am help. Siaradwch â ffrind dibynadwy neu aelod o'r teulu, neu gofynnwch am gymorth proffesiynol. Weithiau, gall rhannu eich teimladau wneud gwahaniaeth mawr.

Mae SilverCloud Cymru yn lle da i ddechrau - gallwch gael mynediad ato am ddim drwy GIG Cymru heb angen atgyfeiriad meddyg teulu. Mae'n defnyddio dulliau sy'n seiliedig ar therapi gwybyddol ymddygiadol i herio sut rydych chi'n meddwl, teimlo ac ymddwyn, a'ch arfogi ag offer i helpu cynnal lles parhaol.

Os ydych chi'n rhiant neu’n ofalwr, mae rhaglenni sydd wedi'u cynllunio'n benodol i'ch helpu chi gefnogi plentyn neu berson ifanc.

 

Rhowch gynnig arni nawr https://nhswales.silvercloudhealth.com/signup/

 

Rhyddhawyd: 18/09/2024