Wrth i heriau Covid-19 barhau yn 2022, mae’r GIG dal yma i helpu. Ond mae gweithwyr iechyd proffesiynol ledled Powys yn annog pobl i wneud rhai newidiadau bach i wella eu hiechyd a’u lles.
Fel rhan o ymgyrch Helpwch Ni i’ch Helpu Chi Llywodraeth Cymru, mae Stuart Bourne, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn dweud bod rhai pethau bach y gallwn wneud er mwy gwneud gwahaniaeth mawr i’n hiechyd a’n lles.
“Os ydych yn byw bywyd iachach, mae’n bosibl byddwch yn byw'n hirach ac yn llai tebygol o ddatblygu salwch a chyflyrau iechyd difrifol. Helpwch ni i’ch helpu chi a lleihau’r pwysau ar y GIG drwy wneud yr hyn a allwch i gadw'n iach."
Mae Freda Lacey, Rheolwr Partneriaethau Iechyd Meddwl ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys, yn esbonio: “Mae nifer o bethau gallwn wneud i ddiogelu a gwella ein lles meddyliol. Rydyn ni'n gwybod bod lefelau gorbryder yn uwch na chyn y pandemig felly mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gwneud yr hyn y gallwn ni."
“Mae bod yn heini, bwyta'n dda, sicrhau eich bod yn cael digon o gwsg a chysylltu gyda ffrindiau a theulu - boed hynny’n rhithiwr neu wyneb yn wyneb mewn modd diogel - yn ffyrdd y gallwch chi ddiogelu eich iechyd meddwl.
Mae cefnogaeth ar gael am ddim:
Gall bwyta deiet cytbwys cael effaith enfawr ar eich iechyd. Fe'n hanogir i fwyta llai o fraster dirlawn, siwgr a halen, a mwy o ffrwythau, llysiau, pysgod olewog a ffibr.
Meddai Elinor Davies, Gweithiwr Cymorth Deieteg Iechyd y Cyhoedd: “Argymhellir eich bod yn bwyta o leiaf pum dogn o amryw o ffrwythau a llysiau bob dydd, gan gynnwys cynhyrchion ffres, wedi’i rhewi neu allan o gan. Mae tystiolaeth i ddangos bod pobl sy’n bwyta o leiaf pum dogn o ffrwythau a llysiau'r dydd a’r bobl sy’n bwyta llaw o fwydydd wedi eu proses at llai o risg o glefyd y galon, strôc a rhai canserau.”
Os hoffech roi hwb i’ch siwrne at ffordd o fyw iachach, ond ddim yn gwybod ble i ddechrau, ewch i dudalennau Byw’n Iach ar wefan GIG 111 Cymru am awgrymiadau a chyngor. Mae pob newid y gwnewch chi yn helpu ni i’ch helpu chi.
Gall gwella eich lefelau ffitrwydd rhoi hwb i’ch iechyd meddwl a lleihau eich risg o ddatblygu cyflyrau cronig megis clefyd coronaidd y galon, strôc, diabetes a rhai canserau.
Gall rhai rhaglenni ymarfer corff dan oruchwyliaeth hefyd dangos buddion therapiwtig i bobl gyda chyflyrau iechyd hir dymor megis nychdod cyhyrol, syndrom blinder cronig ac iselder.
Gwyn Owen yw rheolwr ardal Freedom Leisure i Bowys. Meddai:
“Gall camau bach wneud gwahaniaeth mawr i’ch iechyd a’ch pwysau. Yn ein canolfannau hamdden ledled Powys, mae sawl gweithgaredd ar gael sy’n cael eu darparu mewn amgylchedd diogel, gyda staff cymwysedig. Rydym yn darparu Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff ym Mhowys (NERS) ac yn gweithio’n agos gyda Meddygon Teulu, nyrsys arbenigol, ffisiotherapyddion a deietegwyr. Rydym yn cynnig rhaglen ymyrraeth iechyd sy’n cynnwys pwysau iach, cardiaidd, strôc, canser, cwympo ac iechyd meddwl.”
I ddod o hyd i fwy o wybodaeth am ymarfer corff, ewch i GIG 111 Cymru – Byw’n Iach: Ymarfer Corff
Mae nifer y bobl sy’n ysmygu ac yn chwilio am gymorth i’w helpu rhoi’r gorau arni ym Mhowys wedi cynyddu ers dechrau pandemig Covid 19.
Mae Stuart Bourne, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd yn esbonio:
“Trwy roi’r gorau i ysmygu, gallwch gynyddu effeithlonrwydd eich ysgyfaint a llif yr ocsigen sy’n mynd i’ch gwaed. Mae hyn yn bwysig oherwydd y fwy effeithlon mae eich ysgyfaint, gorau oll yw eich siawns o wella o coronafeirws. Rydym yn gofyn i’r bobl sy’n ysmygu i gysylltu er mwyn cael cefnogaeth am ddim.
"Mae'r dystiolaeth yn dangos eich bod pedair gwaith yn fwy tebygol o roi'r gorau iddi am byth os ydych yn cael cymorth gan wasanaeth y GIG yn hytrach nag os byddwch yn rhoi'r gorau iddi ar eich pen eich hun."
Mae Layla Jones yn 48 ac yn byw yn y Drenewydd. Rhoddodd y gorau i ysmygu ym mis Ionawr 2020 ar ôl gofyn am gymorth gan Helpa Fi i Stopio:
"Rydw i wedi ceisio rhoi’r diwedd arni sawl gwaith a byddwn bob amser yn para tuag wythnos. Mae’r gwasanaeth Helpa Fi i Stopio wedi bod yn wych - ni fyddwn wedi gallu rhoi'r gorau i ysmygu hebddi.”
Os hoffech wybod mwy am y gwasanaeth rhoi’r gorau i ysmygu ym Mhowys, ffoniwch 0800 085 2219 neu ewch i wefan www.helpafiistopio.cymru
Yfwch lai o alcohol
Mae Stuart Bourne o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys yn dweud:
"Y canllawiau i ddynion a menywod yw peidio ag yfed mwy na 14 uned yr wythnos. Os ydych chi'n yfed cymaint â 14 uned yr wythnos, mae'n well rhannu hyn yn gyfartal dros dri diwrnod neu fwy.
"Gall camddefnyddio alcohol yn barhaus cynyddu eich risg o gyflyrau iechyd difrifol fel clefyd y galon, strôc, clefyd yr afu a chanserau amrywiol, rydym yn gofyn i bobl i helpu ni i'ch helpu chi a lleihau eich lefelau alcohol."
Mae Clair Swales, cyn-ddiffoddwr tân sy’n 44 oed o ger y Gelli Gandryll, wedi gwneud Adduned y Flwyddyn Newydd i leihau faint o alcohol y mae'n ei yfed:
“Weithiau, rwy’n yfed ychydig o wydrau o win tair gwaith yr wythnos. Yn debyg i lawr, rwy’n tueddi chwilio am fotel o win ar ôl diwrnod hir. Ond mae'n hawdd dod i arfer i rywbeth sy’n anodd ei dorri. Rwy’n sylwi ar y gwahaniaeth pan fydda i'n yfed llai. Rwy'n llawer llai blinedig a diegni, rwy'n teimlo'n well ar y cyfan, mae fy nghroen yn gwella ac rwy'n teimlo'n fwy parod i fynd i'r gampfa a gwella fy iechyd yn gyffredinol."
Os ydych yn poeni am eich defnydd alcohol, ewch i GIG 111 Cymru - Byw’n Iach: Alcohol
Adduned wych ar gyfer y flwyddyn newydd yw yfed mwy o ddŵr. Mae cadw'n hydradol mor bwysig i'n hiechyd, a gall atal blinder, cur pen a rhwymedd.
"Ceisiwch arllwys chwech neu wyth gwydryn i jwg neu botel ddŵr a'i yfed yn rheolaidd drwy gydol y dydd. Os nad ydych yn hoff iawn o flas dwr plaen, ychwanegwch sleisen o lemwn neu leim neu gwnewch baned o de llysieuol. Mae te a choffi arferol yn cyfri hefyd!” meddai Elinor Davies, Gweithiwr Cymorth Deieteg Iechyd y Cyhoedd i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Helpwch ni i'ch helpu chi ac ewch i gael eich brechu pan fyddwch yn cael eich gwahodd, gan gynnwys brechlyn atgyfnerthu COVID-19 a'r pigiadau ffliw blynyddol.
Mae mwy o wybodaeth ar frechu ym Mhowys ar gael yma: Sesiynau Brechu COVID Galw Heibio - wythnos yn dechrau 10 Ionawr - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (gig.cymru)