Heddiw (dydd Iau, Hydref 22), cefnogwyd cynigion ar gyfer cyfleuster iechyd a gofal o’r radd flaenaf yn y Drenewydd gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys yn dilyn cymeradwyaeth Cabinet y cyngor yn gynharach yr wythnos hon.
Mae Achos Busnes y Rhaglen yn gosod uchelgais i wella’r gwasanaethau iechyd a llesiant trwy Ganolfan Ranbarthol Wledig arloesol a Hyb Llesiant Cymunedol ar draws gogledd Powys, rhaglen ar y cyd rhwng y cyngor a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar ran bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys, a bydd nawr yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru.
Ychwanegodd Carol Shillabeer, Prif Weithredwr a Chyd-noddwr Rhaglen: “Mae Rhaglen Llesiant Gogledd Powys yn dangos ein hymrwymiad parhaus i integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal i bobl Powys. Bydd gan y campws amlasiantaethol yng nghanol y Drenewydd ffocws cryf ar lesiant, a chymorth a chefnogaeth gynnar i blant a theuluoedd. Bydd ein timau iechyd a gofal cymdeithasol yn cydweithio’n agos â sefydliadau’r trydydd sector yn y gymuned o’n Hyb Llesiant Cymunedol i gyflenwi gofal di-fwlch sy’n nes at adre.
“Bydd y Ganolfan Ranbarthol Wledig ar flaen y gad o ran arloesedd wrth gyflenwi iechyd a gofal trwy gynnydd mewn technoleg ddigidol mewn amgylchedd sy’n gyffrous ac yn wirioneddol arloesol i staff weithio ynddo. Bydd y ganolfan hefyd yn gweithio gyda’n rhwydwaith cyfredol o ysbytai cymunedol a ysbytai cyffredinol ardal ar gyffiniau’r sir i sicrhau bod trigolion yn derbyn y driniaeth gywir yn y lle cywir mewn lleoliad sy’n addas i’w dibenion.”
Sylw Myfanwy Alexander, Aelod Portffolio ar faterion Gofal Cymdeithasol Oedolion ac Aelod arweiniodd o’r Cabinet ar gyfer y rhaglen, oedd: “‘Gan weithio ar y cyd â’r Bwrdd Iechyd a llawer o randdeiliaid eraill, mae Cyngor Sir Powys yn falch gallu cefnogi’r rhaglen arloesol. Mae’n cynrychioli dull o weithio o lawr gwlad i fyny, ac yn gosod llesiant wrth wraidd y cyfan.
“Mae buddsoddiad o’r maint yma yn hyb mawr i’r Drenewydd ac rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu rhaglen o ofal a chymorth ar y safle yma a fydd yn batrwm ar gyfer rhannau eraill o Bowys yn ogystal ag yn esiampl i Gymru gyfan.”
Mae Achos Busnes y rhaglen yn gam arwyddocaol tuag at ddod â gwasanaethau iechyd a llesiant yn nes adref ac i’r gymuned leol. Bydd y cyfleusterau newydd arloesol yn Ysgol Fabanod Ladywell ac Ysgol Iau Hafren. Bydd y prosiect sy’n pontio’r cenedlaethau yn gweld gwasanaethau iechyd a llesiant integredig yn dod at ei gilydd mewn un lle, yng nghanol y Drenewydd.
Mae’r achos busnes hefyd yn esbonio yn fwy manwl pam y byddai’r campws amlasiantaethol yn addas i’r Drenewydd, a’r cyfleoedd i weithio gyda’r sector gwirfoddol a sefydliadau eraill i wella llesiant pobl. Mae cynllun drafft o’r datblygiad yn bodoli, ond proflen yw hon o gysyniad i ddangos lleoliad yr ysgol a’r meysydd chwarae, a bod yna ddigon o le i’r gwasanaethau iechyd a llesiant fel ei gilydd.
Bydd y Ganolfan Ranbarthol Wledig hon yn hefyd yn gweithio gyda’r rhwydwaith cyfredol o ysbytai cymunedol trwy sicrhau bod pobl yn derbyn y gofal iawn ar yr adeg iawn mewn lle sy’n addas at eu dibenion ac yn nes at eu cartref.
Y ‘garreg filltir’ gyntaf yw Achos Busnes y Rhaglen, mewn prosiect sydd â’r nod o geisio cefnogaeth – a chyllid cyfalaf - Llywodraeth Cymru. Bydd gwaith ymgysylltu sydd wedi bod yn digwydd dros y ddwy flynedd diwethaf yn parhau gydol y prosiect.