Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi rhybuddio bod achosion COVID ym Mhowys wedi cynyddu’n sydyn yn ystod y dyddiau diwethaf.
Er bod cyfyngiadau COVID wedi llacio’n ddiweddar, mae swyddogion iechyd y sir yn annog trigolion i fod yn wyliadwrus i osgoi cynyddu nifer yr heintiau a rhoi straen ar adnoddau prin y GIG.
Y gyfradd bresennol o achosion ym Mhowys yw 259 fesul 100,000 o bobl, yn is na chyfartaledd Cymru ond yn fwy na dwbl y gyfradd a welwyd ddiwedd y mis diwethaf.
Mae Alison Merry, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd wedi annog pobl i fod yn ofalus – hyd yn oed os nad yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith.
"Mae ychydig o wythnosau wedi mynd heibio ers i nifer o gyfyngiadau cyfreithiol gael eu codi ac rydym yn disgwyl newidiadau pellach tua diwedd mis Mawrth, ond mae'n amlwg bod COVID yn para i fod gyda ni, ac mae angen i ni barhau i fod yn wyliadwrus.
"Mae cyfraddau achosion yn y sir wedi cynyddu dros yr wythnos ddiwethaf. Ar hyn o bryd ym Mhowys mae dros 250 o achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth a gwyddom fod y cyfraddau gryn dipyn yn uwch mewn rhai ardaloedd cyfagos.
"Gallai'r nifer cynyddol o achosion ry’n ni’n eu gweld cynyddu'r pwysau ar y system iechyd a gofal sydd eisoes dan bwysau.
"Rydym yn annog trigolion i fod yn ofalus, i gael y ddau frechiad a’r pigiad atgyfnerthu pan gânt eu gwahodd, i gyfyngu ar eich cysylltiadau, i gymryd prawf llif unffordd a chofrestru'r canlyniadau. Gwisgwch fwgwd hyd yn oed os nad oes gofyn i chi wneud hynny er mwyn arafu lledaeniad yr haint."
Cadw Cymru’n ddiogel:
· cofiwch i gael eich dau bigiad, a phan fyddwch yn derbyn eich gwahoddiad ewch i gael eich pigiad atgyfnerthu
· cadwch eich cysylltiadau’n isel
· mae’r awyr agored yn fwy diogel na dan do
· gwnewch brawf llif unffordd cyn gweld eraill
· gwnewch brawf llif unffordd os nad oes gennych symptomau a’ch bod dros 11 oed
· os oes gennych symptomau, cofiwch hunan-ynysu ac ewch am brawf PCR
· gwisgwch orchudd wyneb