Bydd cynlluniau i ddod â'r capel rhestredig Gradd II annwyl ac adnabyddadwy yn ôl yn fyw yn dechrau yn ystod 2025 yn dilyn penodiad llwyddiannus AHR Architects – cwmni arobryn o'r DU.
Byddant yn gweithio gydag Adran Gynllunio'r Awdurdod Lleol a CADW - gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru - i ddatblygu cynllun a fydd yn atgyweirio ac yn adnewyddu'r adeilad presennol mewn modd sympathetig.
Nid yw'r capel, sydd wedi'i leoli ar dir ysbyty Bronllys, wedi cael ei ddefnyddio ers sawl blwyddyn, ond mae mewn cyflwr cymharol dda. Fodd bynnag, mae angen uwchraddio mewn perthynas â'i statws Rhestredig gan gynnwys gwresogi a thrydan. Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) wedi gwneud gwaith atgyweirio a chynnal a chadw arferol, ond cydnabyddir bod angen buddsoddiad mwy sylweddol i wneud yr adeilad yn gynnes, yn ddiogel ac yn ddefnyddiadwy gan gynnwys ystyried system wresogi sy'n cefnogi datgarboneiddio. Y bwriad ar gyfer y cam cyntaf hwn o'r gwaith yw darparu adeilad 'defnyddiadwy'.
Bydd y cynlluniau wedi’u cymeradwyo nawr yn galluogi contractwr addas i gael ei benodi, a nodi costau ar gyfer y broses adeiladu. Bydd rhagor o ddiweddariadau yn cael eu darparu ond bydd y gymuned a grwpiau cymunedol ehangach yn cael eu gwahodd i gyfrannu arian.
Mae trafodaethau diweddar eisoes wedi cael eu cynnal gyda Pharc Lles Bronllys ac mae cyfarfod wedi'i gynllunio ar gyfer y Flwyddyn Newydd gyda gwahoddiad yn cael ei estyn i grwpiau cymunedol eraill sydd â diddordeb fel Cynghrair Cyfeillion Bronllys a grŵp y Cyn-filwyr. Bydd y cyfarfod yn dechrau datblygu syniadau ynghylch sut, ar y cyd ag anghenion y Bwrdd Iechyd, y gall y capel helpu, a chefnogi gofal iechyd a gweithgarwch lles sydd wedi'i leoli ar safle ysbyty Bronllys.
Rhyddhawyd: 08/10/2025