Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) yn archwilio cyfleoedd i sicrhau cyllid allanol i adnewyddu'r Capel yn Ysbyty Bronllys. Hoffem ddeall sut yr hoffai cleifion, staff, teuluoedd, trigolion lleol, grwpiau ffydd a sefydliadau cymunedol weld y Capel yn cael ei ddefnyddio yn y dyfodol.
Anogir unrhyw un sydd â diddordeb i gymryd rhan mewn arolwg i ddweud sut y bydden nhw'n hoffi gweld y Capel yn cael ei ddefnyddio yn y dyfodol. Bydd hyn yn cynorthwyo ceisiadau i gasglu’r arian angenrheidiol ar gyfer y gwaith adnewyddu arfaethedig.
Bwriad y Capel yw gwasanaethu fel gofod amlbwrpas, parchus a rennir sy'n croesawu ac yn cynnwys pob ffydd; gan gefnogi myfyrdod, gweithgareddau crefyddol ac ysbrydol, gwasanaethau bugeiliol, lles a gweithgareddau ehangach sy'n gysylltiedig â'r gymuned yn unol â gwerthoedd y Bwrdd Iechyd.
Gallwch gymryd rhan yn yr arolwg trwy ymweld â: Adnewyddu a Defnyddy Dyfodol Capel yn Ysbyty Bronllys | Dweud Eich Dweud Powys
Bydd yr arolwg yn cau am ganol nos 30 Medi 2026.
Rhyddhawyd: 21/07/2026