Mae Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys GIG Cymru wedi cyhoeddi’r diweddariad canlynol ar ddatblygiad Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys y GIG (EMRTS Cymru) ac Elusen Ambiwlans Awyr Cymru:
Annwyl randdeiliad allweddol,
Roeddwn am roi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y newid i eitem agenda cyfarfod y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (PGAB) ynghylch Adolygiad Gwasanaeth GCTMB a drefnwyd ar gyfer 21 Rhagfyr.
Rwyf wedi derbyn llythyr gan Alyson Thomas, Prif Weithredwr Llais ynghylch camau nesaf Adolygiad Gwasanaeth GCTMB.
Llais yw'r corff statudol annibynnol, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i roi llawer mwy o lais i bobl Cymru wrth gynllunio a darparu eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol - yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
Mae'r llythyr gan Llais yn dilyn sgyrsiau anffurfiol diweddar yr wyf wedi'u cael gyda'u Prif Weithredwr ac mae'n argymell bod yr Adolygiad hwn yn cael ei gynnal fel ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol.
Bydd argymhelliad Llais nawr yn cael ei gyflwyno i'r PGAB i'w ystyried, yn lle'r 'argymhelliad dewis a ffefrir' a gynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer y Pwyllgor ar 21 Rhagfyr.
Ar ôl cyfarfod PGAB, rwy'n disgwyl anfon ymateb ffurfiol at Llais ar ran y Pwyllgor yn cadarnhau'r safbwynt y cytunwyd arni gan y PGAB ac yn egluro'r amserlen wedi'i haddasu ar gyfer yr Adolygiad wrth symud ymlaen.
Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi yn dilyn cyfarfod y PGAB trwy ein rhestr Dosbarthu Rhanddeiliaid.
Rhowch wybod i ni os hoffech gael eich tynnu oddi ar y rhestr hon ar unrhyw adeg.
Fel bob amser, diolch yn ddiffuant iawn i chi am eich diddordeb parhaus ar y mater hwn.
Diolch yn fawr
Cofion gorau
Stephen Harrhy
Prif Gomisiynydd y Gwasanaethau Ambiwlans
Gweler mwy yma:
11/12/23