Mae Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys GIG Cymru wedi cyhoeddi’r diweddariad canlynol ar ddatblygiad Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys y GIG (EMRTS Cymru) ac Elusen Ambiwlans Awyr Cymru:
Annwyl Randdeiliaid,
Yn bellach i’m ddiweddariad fis diwethaf, roeddwn i eisiau rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ail gam ymgysylltu â'r cyhoedd ar Adolygiad Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) a fydd yn digwydd rhwng 09 Hydref a 05 Tachwedd 2023 ar gyfer adborth gan y cyhoedd.
Bydd sesiynau ymgysylltu â'r cyhoedd Cam 2 yn cael eu cynnal o ddydd Iau 12 Hydref tan ddydd Gwener 20 Hydref yn gynhwysol trwy gyfuniad o sesiynau galw heibio anffurfiol, cyfarfodydd cyhoeddus personol - yn y Trallwng, Y Drenewydd, Machynlleth, Bangor a Phwllheli - a sesiynau rhithwir/arlein gan ddefnyddio Microsoft Teams.
Yn ogystal ag amserlen y sesiynau ymgysylltu, bydd y cyhoedd yn gallu darparu eu sylwadau o 09 Hydref tan 05 Tachwedd trwy ystod o ddulliau gan gynnwys post, ffôn, a ffurflenni ar-lein. Yn dilyn yr adborth a gasglwyd gennym trwy ystod o ddulliau yn ystod Cam 1, mae fy nhîm wedi
bod yn gweithio ar ddatblygu opsiynau, ac mae modelu data cyflenwol hefyd wedi bod ar y gweill, yr wyf bellach am ei brofi gyda'r cyhoedd a rhanddeiliaid yng Ngham 2.
Rwyf bellach yn annog y cyhoedd a rhanddeiliaid i wneud sylwadau fel rhan o Gam 2 lle byddaf yn dal i wrando ar sylwadau cyhoeddus a rhanddeiliaid ar yr opsiynau a ddatblygwyd cyn gwneud penderfyniad yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Bu'n rhaid i ni ganolbwyntio'r digwyddiadau ymgysylltu wyneb yn wyneb ar yr ardaloedd lle cafwyd y lefel uchaf o ddiddordeb a phresenoldeb yng Ngham 1 a dyna pam yr rydym yn cynnal sesiynau ymgysylltu wyneb yn wyneb yn ardaloedd Byrddau Iechyd Powys a Betsi Cadwaladr, yn ogystal â chynnig sesiynau ar-lein i'r rhai a allai fod yn well ganddynt ar-lein neu na allant fynychu sesiynau wyneb yn wyneb.
Mae yna hefyd wasanaeth ateb dros y ffôn a ffurflen adborth ar-lein i roi cymaint o gyfle â phosibl i bobl wneud sylwadau ar yr hyn sy'n cael ei rannu.
Pwysleisiais ar ddiwedd Cam 1 nad oedd unrhyw benderfyniad wedi'i wneud o'r blaen ar y mater hwn ac mae'r ail gam hwn yn rhoi cyfle i mi rannu'r hyn a glywyd yng Ngham 1 a dangos sut mae hyn wedi'i gymhwyso i'r opsiynau a ddatblygwyd.
Rwyf wedi bod yn ddiolchgar am y ddeialog adeiladol a gawsom yng Ngham 1 ac rwy'n obeithiol y bydd Cam 2 yr un mor ddefnyddiol i mi wrth gyrraedd yr opsiwn a ffefrir y byddaf wedyn yn gallu ei argymell yn ffurfiol i'r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys am eu penderfyniad.
Mae'r angerdd am y gwasanaeth ambiwlans awyr yn amlwg ac mae wedi bod yn amlwg bod awydd ar y cyd - rhwng y cyhoedd a rhanddeiliaid i gydweithio â'r Elusen ac EMRTS - i wneud y gwasanaeth partneriaeth gwych hwn hyd yn oed yn well i'n cymunedau yng Nghymru.
Fel bob amser, diolch yn ddiffuant iawn i chi am eich diddordeb parhaus ar y mater hwn.
Cofion gorau,
Stephen Harrhy
Prif Gomisiynydd y Gwasanaethau Ambiwlans
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys .
Edrychwch ar ein tudalen Adolygiad Ambiwlans Awyr am yr holl erthyglau newyddion a diweddariadau am yr adolygiad o wasanaethau ambiwlans awyr yng Nghymru.