Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad Gwasanaeth GCTMB Diweddariad 22 Rhagfyr 2023

dyn a hofrennydd

Mae Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys GIG Cymru wedi cyhoeddi’r diweddariad canlynol ar ddatblygiad Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys y GIG (EMRTS Cymru) ac Elusen Ambiwlans Awyr Cymru:

Annwyl randdeiliad,

Addewais y byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (PGAB) ar 21 Rhagfyr 2023.

Yn y cyfarfod, trafododd Aelodau'r Pwyllgor y llythyr a gefais gan Alyson Thomas, Prif Weithredwr Llais, yn argymell bod Adolygiad Gwasanaeth GCTMB yn rhoi cyfle pellach i'r cyhoedd a rhanddeiliaid wneud sylw.

Llais yw’r corff statudol annibynnol, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i roi llawer mwy o lais i bobl Cymru wrth gynllunio a darparu eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol – yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.

Cytunodd y Pwyllgor i fwrw ymlaen â'r cynllun gwreiddiol, ond i'w ychwanegu ato drwy ymgymryd â Cham 3 terfynol gan roi cyfle olaf i'r cyhoedd a rhanddeiliaid wneud sylwadau ar yr opsiynau ar y rhestr fer.

Byddai'r Cam 3 hwn yn adeiladu ar y ddau gam blaenorol a gyflawnwyd eleni.

Cynghorais i Llais y cynllun hwn, ac roeddent yn gefnogol i'n camau nesaf ac rwy'n ysgrifennu at Llais yn cadarnhau penderfyniad PGAB yn ffurfiol.

Rwyf wedi pwysleisio drwy gydol yr ymgysylltu hyd yma ei bod yn bwysig cynnal yr Adolygiad hwn yn gadarn, ac er y gallai’r oedi hwn fod yn siomedig i raddau, credaf ei fod yn dyst i uniondeb yr ymgysylltu sydd wedi dod â’r gwaith i’r pwynt hwn.

Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn y Flwyddyn Newydd a fydd yn cynnwys mwy o fanylion am sut y bydd Cam 3 yn cael ei gyflwyno.

Diolch am eich goddefgarwch a gobeithio y byddwch yn cymryd rhan yng Ngham 3 ar yr opsiynau ar y rhestr fer ym mis Chwefror 2024.

Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i chi am eich cyfraniadau ar y mater hwn drwy gydol 2023, ac i ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi a’ch un chi.

Cofion gorau

Stephen Harrhy

Prif Gomisiynydd y Gwasanaethau Ambiwlans

 

Gweler mwy yma:

https://biap.gig.cymru/amdanom-ni/cymryd-rhan/ymgysylltu-ac-ymgynghori-cyfredol-y-gig/ambiwlans-awyr/

 

 

28/12/23

Rhannu:
Cyswllt: