Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad newydd Hyb Gwyddorau Bywyd Cymru yn tynnu sylw at effaith cefnogi partneriaid yn GIG Cymru, mewn gofal cymdeithasol ac yn y diwydiant

Mae Hyb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol, sy’n tynnu sylw at sut mae’n cyflymu’r gwaith o ddatblygu a mabwysiadu atebion arloesol i wella canlyniadau iechyd a lles economaidd yng Nghymru.

Mae’r sefydliad yn manteisio ar gydweithio i gefnogi partneriaid ar draws GIG Cymru, gofal cymdeithasol a’r diwydiant i fynd i’r afael â heriau sy’n effeithio ar iechyd a lles yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys yr ôl-groniad o bobl sydd angen mynediad at wasanaethau, poblogaeth sy’n heneiddio a chyfyngiadau ariannol ac adnoddau sy’n effeithio ar y ddarpariaeth.

Mae uchafbwyntiau’r adroddiad yn cynnwys:

  • Darparu £18,150,000 o Werth Ychwanegol Gros (GVA)
  • Cefnogi partneriaid gyda 26 o gynigion sy’n barod i’w mabwysiadu ac 17 o gynigion cyllido
  • Helpu gyda 330 o swyddi
  • Cefnogi 319 o wahanol sefydliadau

Drwy astudiaethau achos cryno a dealltwriaeth allweddol, mae’r adroddiad yn dangos sut mae Hyb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cefnogi gofal iechyd i fynd i’r afael â gofynion adfer ac ôl-groniadau ar ôl y pandemig ac wedi gweithio gyda’r diwydiant i hwyluso’r gwaith o ddatblygu a mabwysiadu technolegau newydd yng Nghymru, fel biopsïau hylifol, monitro o bell a deallusrwydd artiffisial.

Rhoddir sylw i ystod eang o brosiectau a ffrydiau gwaith, gan gynnwys:

  • Edrych ar yr heriau a’r cyfleoedd i fwrw ymlaen i ganfod a chael diagnosis o ganser yn gynnar drwy ddod â 120 o arweinwyr ynghyd sy’n gweithio ar flaen y gad yn y maes hwn mewn partneriaeth â Fforwm Diwydiant Canser Cymru.
  • Cefnogi tîm byd-eang Cytiva drwy eu proses o wneud penderfyniadau a arweiniodd at fuddsoddi a gwaith datblygu sylweddol yng nghyfleuster gweithgynhyrchu Cardiff Edge. Bydd y safle newydd a ddatblygwyd yn helpu i sicrhau cynnydd o 20% yng nghapasiti gweithgynhyrchu byd-eang Cytiva ar gyfer cynnyrch untro.
  • Cefnogi’r gwaith o ddatblygu Rhwydwaith Llawdriniaethau â Chymorth Roboteg Cymru Gyfan mewn partneriaeth â byrddau iechyd a’r cynllun Canser Moondance. Bydd y rhaglen genedlaethol llawdriniaeth â chymorth roboteg yn darparu llawdriniaeth robotig sy'n creu archoll mor fach â phosib i filoedd o gleifion canser ledled Cymru.

Mae’r adroddiad ar gael i’w lwytho i lawr yn llawn ar wefan Hyb Gwyddorau Bywyd Cymru.

 

 

 

 

 

Rhyddhawyd: 23/11/2022

 

Rhannu:
Cyswllt: