Neidio i'r prif gynnwy

Ymateb Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i gyhoeddiad Ail Adroddiad Ockenden ar fethiannau mewn gofal mamolaeth a ddarperir gan Ymddiriedolaeth y GIG Ysbyty Amwythig a Thelford

Logo

Mewn ymateb i gyhoeddiad Ail Adroddiad Ockenden ar 30 Mawrth, dywedodd Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:

“Mae'r methiannau yn Ymddiriedolaeth y GIG Ysbyty Amwythig a Thelford (SaTH) yn peri pryder mawr, ac yn bennaf estynnwn ein cydymdeimlad i’r teuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiadau trasig hyn.

“Trwy gydol y broses adolygu, rydym wedi gweithio’n agos gyda Donna Ockenden a thua 40 teulu sy’n byw ym Mhowys, y mae eu profiadau wedi ffurfio rhan o'r adolygiad yn SaTH. 

"Rydym mewn cysylltiad parhaus gyda SaTH, y tîm Adolygu, a Phartneriaid Cynghrair Gwella SaTH yn Ymddiriedolaeth y GIG Ysbytai Prifysgol Birmingham ac Ymddiriedolaeth y GIG Ysbytai Sherwood   Forrest.

"Mae'r gwaith a welsom hyd yma sydd yn ei le i wella gwasanaethau yn cadw menywod a theuluoedd wrth wraidd. Byddwn yn parhau i gydweithio gyda SaTH a phartneriaid eraill ar y gwelliant hwn.

"Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda menywod a'u teuluoedd ar eu dewisiadau gofal. Ar hyn o bryd mae llawer o fenywod yn adrodd am brofiadau gofal da neu ragorol, ond os oes gan unrhyw fenyw bryderon am eu gofal, byddem yn eu hannog i naill ai drafod gyda'u bydwraig neu i gysylltu â ni'n uniongyrchol yn y bwrdd iechyd.

Os hoffai trigolion Powys rhannu eu profiad o Wasanaethau Menywod a Phlant yn Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Amwythig a Thelford, yna cysylltwch â concerns.qualityandsafety.pow@wales.nhs.uk neu ffoniwch 01874 712967 neu 01874 712699.”

Rhannu:
Cyswllt: