Mae ffermwyr a chymunedau gwledig ledled Cymru yn cael eu hatgoffa nad yw ceisio cymorth iechyd meddwl cynnar yn golygu’n awtomatig ildio trwydded arfau tanio.
Dywedodd GIG Cymru y gallai camsyniadau fod yn atal rhai ffermwyr rhag gofyn am gymorth, yn enwedig pan fyddant yn profi straen, gorbryder neu hwyliau isel.
Yn y cyfamser, cadarnhaodd wasanaeth yr heddlu i ddeiliaid trwyddedau bod cyflyrau iechyd meddwl yn cael eu hasesu'n deg, yn sensitif ac yn unigol gan awdurdodau trwyddedu arfau tanio.
Dywedodd Adrian Phillips, rheolwr trwyddedu arfau tanio gyda Heddlu Dyfed Powys: “Mae pob mater yn cael ei ystyried fesul achos, a’r hyn y gallaf ei ddweud yw nad yw materion iechyd meddwl yn awtomatig yn atal person rhag dal tystysgrif.”
Adleisiwyd y teimlad gan adrannau trwyddedu arfau tanio Heddlu De Cymru, Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Gwent, a ddywedodd mewn datganiad ar y cyd: “Nid yw ceisio cefnogaeth neu gymorth o reidrwydd yn golygu byddwch yn colli eich drylliau neu y caiff eich tystysgrifau’n cael eu dirymu.
“Bydd pob achos unigol yn cael ei adolygu a’i asesu’n sensitif fesul achos.”
Mae'r cyngor yn dilyn sgyrsiau rhwng staff iechyd meddwl GIG Cymru a ffermwyr a fynychodd Sioe Frenhinol Cymru yn Llanfair-ym-Muallt y llynedd.
Clywodd staff o SilverCloud Cymru, y platfform iechyd meddwl ar-lein, bryderon ynghylch gofyn am gymorth.
Dywedodd Fionnuala Clayton, rheolwr prosiect Gwasanaeth Gwybyddol Ymddygiadol Ar-lein GIG Cymru, sy'n rheoli SilverCloud Cymru: “Rydyn ni’n gwybod bod stigma go iawn o hyd a rhai pryderon dealladwy mewn cymunedau ffermio ynghylch yr hyn a allai ddigwydd os bydd pobl yn siarad am eu hiechyd meddwl.
“Mae’n bwysig i bobl wybod bod ceisio cymorth yn gam cadarnhaol a chyfrifol. I rai gallai hynny olygu cofrestru ar gyfer SilverCloud - mae'n cyd-fynd â bywydau prysur, gan gynnwys y rhai sy'n gweithio mewn ffermio a chymunedau gwledig. Does dim angen ymweld â meddyg teulu na chadw at apwyntiadau clinig.”
Mae'r ffermwr cig eidion ac âr o Wrecsam, Will Penri-Evans, wedi siarad yn agored am ei brofiadau ei hun gydag iselder a dywedodd ei bod yn hanfodol blaenoriaethu iechyd.
Dywedodd Will, sydd hefyd yn ysgrifennu colofn i Farmers Weekly: “Gallwch chi ddeall pam y byddai ffermwyr yn poeni – roedd gen i bryderon fy hun pan oeddwn i’n cymryd meddyginiaeth ar gyfer iselder, ond ceisio cymorth oedd y peth iawn i’w wneud, ac yn fy achos i ni effeithiodd ar fy nhrwydded.
“Yn y cynllun mawr, os yw eich iechyd yn dioddef yna dylai eich trwydded arfau tanio fod yn isel ar eich rhestr o flaenoriaethau.
“Mae’n rhaid i’ch iechyd – gan gynnwys eich iechyd meddwl – ddod yn gyntaf.”
Dywedodd Mr Phillips hefyd y dylai deiliaid trwyddedau fod yn agored am eu trafferthion.
“Mae yna lawer o enghreifftiau o ddeiliaid tystysgrifau yn cael eu trin am orbryder, iselder, straen sy’n gysylltiedig â gwaith, ADHD ac anhwylderau eraill, boed yn hanesyddol neu’n gyfredol.” meddai.
“Mae disgwyliad hefyd gan ddeiliaid tystysgrifau presennol eu bod yn adrodd ac yn datgelu pob mater yn gywir.
“Mae’n llawer haws i bawb geisio gweithio gyda’i gilydd na pheidio â datgelu a gallai hynny achosi problem yn y dyfodol.”
O dan y gofynion trwyddedu arfau tanio presennol, mae angen adroddiadau Meddyg Teulu wrth wneud cais am dystysgrif newydd neu adnewyddiad.
Mae awdurdodau trwyddedu yn asesu gwybodaeth yn gymesur a chyda diogelwch y cyhoedd mewn golwg, meddai Mr Phillips.
“Bydd yr Awdurdod Trwyddedu Arfau Tanio yn trin pob mater yn deg ac yn sensitif a bydd yn ceisio cyrraedd pwynt sy’n foddhaol i bawb dan sylw.
“Rydym yma i atal unrhyw risg rhagweladwy, rheoli’r risg, bod yn gymesur ac yn deg, a darparu gwasanaeth teg, tryloyw a chyson i’r cyhoedd.”
Dywedodd Heddlu De Cymru, Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Gwent y byddent yn pwysleisio'r neges dros yr haf mewn digwyddiadau cymunedol, sioeau sirol a sioeau saethu, wrth barhau i ymgynghori â'u grwpiau cynghori annibynnol.
“Hoffem hefyd atgyfnerthu pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth â byrddau iechyd lleol, meddygon teulu a Phwyllgorau Meddygol Lleol, yn ogystal â’r prosesau rhannu gwybodaeth ac adrodd a gytunwyd yn genedlaethol ar gyfer cyflyrau meddygol perthnasol,” meddai’r tri heddlu.
“Rydym yn mynegi ein diolch i staff y GIG sy’n ein cefnogi yn hyn – ni ellir gorbwysleisio ei bwysigrwydd.”
Mae SilverCloud Cymru yn darparu rhaglenni ar-lein cyfrinachol am ddim sydd wedi'u cynllunio i helpu pobl i reoli gorbryder, iselder, straen, problemau cysgu a heriau iechyd meddwl cyffredin eraill, gyda chymorth ar gael ar amser a lle sy'n addas iddyn nhw.
Nid oes angen ymweld â meddyg teulu. Hunanatgyfeirio ar-lein yma:
https://nhswales.silvercloudhealth.com/signup/
Mae cymorth iechyd meddwl ar gael drwy’r dydd a’r nos drwy ffonio’r llinell gymorth 111, opsiwn 2.
Cyhoeddwyd: 21/07/2026