Neidio i'r prif gynnwy

Dynion yn cael eu hannog i gyrchu cymorth iechyd meddwl ar-lein am ddim ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Dynion

Dave Muckell, cyfarwyddwr grŵp lles meddwl dynion Lads & Dads.

Mae gwasanaeth iechyd meddwl digidol GIG Cymru yn galw ar fwy o ddynion i gyrchu cymorth wrth i ffigyrau ddatgelu eu bod 2.5 gwaith yn llai tebygol na menywod o ddefnyddio ei raglenni.

Mae bron i 7,000 o ddynion wedi defnyddio SilverCloud Cymru - cyfres o raglenni ar-lein dan arweiniad yn seiliedig ar therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) - ers i'r gwasanaeth gael ei dreialu yn 2018.

Dros yr un cyfnod, mae bron i 18,000 o fenywod wedi elwa.

Dywedodd rheolwr prosiect CBT Ar-lein GIG Cymru, Fionnuala Clayton bod y ffigyrau - a ddatgelwyd i gyd-fynd â #Tashwedd, mis ymwybyddiaeth iechyd meddwl dynion - yn awgrymu y gallai tabŵs ynghylch iechyd meddwl fod yn gwneud dynion yn amharod i geisio cymorth.

Dywedodd Fionnuala: "Mae dynion yn aml yn teimlo dan bwysau i drin pethau ar eu pennau eu hunain, ond mae gofalu am iechyd meddwl yn gryfder, nid gwendid.

"Yn anffodus, mae'r stigma yn dal i fod yn rhwystr i lawer.”

Mae ymchwil gan Amser i Newid Cymru yn dangos bod dynion yn llai tebygol na menywod o geisio cymorth gan eu meddyg teulu ar gyfer problemau iechyd meddwl.

Mae dynion hefyd yn llai cyfforddus yn trafod eu hiechyd meddwl gyda ffrindiau a theulu, ac yn llai tebygol na menywod o wybod sut i gynghori ffrind sy'n profi cyfnod anodd.

Dywedodd Dave Muckell, cyfarwyddwr grŵp lles meddyliol dynion o Borthcawl, Lads & Dads: "Mae'r stigma yma y dylai dynion jyst fod yn ddynion, ac yn anffodus mae stigma'n atal dynion rhag gofyn am help.

"Ond mae'n iawn i gyfaddef nad ydych chi'n iawn. Mae’n iawn i estyn allan a gofyn am gymorth. Mae gan bob un ohonom gyfle i ffynnu a mwynhau ein bywydau."

Ymhlith dynion sy'n defnyddio SilverCloud Cymru, sy'n cael ei reoli gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, mae dros hanner a gofrestrodd eleni wedi ceisio cefnogaeth ar gyfer iselder, gorbryder, neu gyfuniad o'r ddau.

Mae galw hefyd wedi bod am raglenni ar gyfer cymorth gyda rheoli straen, gorbryder o ganlyniad i iechyd a gorbryder cymdeithasol yn 2024.

Dywedodd Fionnuala: "Rydyn ni’n deall y gall estyn allan deimlo'n anodd, ond gall blaenoriaethu eich iechyd meddwl trwy gael cymorth drwy SilverCloud fod y cam cyntaf wrth ymateb i heriau bywyd."

I ddysgu mwy am SilverCloud, ewch i: https://biap.gig.cymru/gwasanaethau/gwasanaethau-iechyd-meddwl-oedolion-a-phobl-hyn/tyg-ar-lein-silvercloud/

I gofrestru drwy hunanatgyfeiriad, ewch i: https://nhswales.silvercloudhealth.com/signup/