Mae dros draean o oedolion Cymru (37%) yn teimlo eu bod nhw’n llai iach nawr, yn gyffredinol, nag oedden nhw ar ddechrau pandemig Covid-19, yn ôl arolwg YouGov diweddar.
Gyda bron i un o bob tri oedolyn o Gymru (30%) yn nodi eu bod wedi magu pwysau ers dechrau’r pandemig, mae ymgyrch Helpwch Ni i’ch Helpu Chi gan Lywodraeth Cymru yn awyddus i dynnu sylw at y ffaith bod dilyn ffordd iachach o fyw yn golygu eich bod yn fwy tebygol o fyw yn hirach a’ch bod yn llai tebygol o ddatblygu salwch a chyflyrau iechyd difrifol.
O’r bobl hynny yng Nghymru sydd wedi magu pwysau, y pwysau a fagwyd ar gyfartaledd yw 5.5 cilogram neu 12 pwys.
Penderfynodd Stefanie Waddington-Gries, sy’n byw yng Nghegidfa, wisgo’i hesgidiau rhedeg pan sylweddolodd ei bod wedi magu hanner stôn ar ôl y ddau fis cyntaf o’r cyfnod clo:
“Dw i ddim y person mwya’ ffit, ond ro’n i wedi dechrau mynd i ddosbarthiadau cadw’n heini. Pan oedd yn rhaid iddyn nhw gau lawr a finnau’n gorfod dechrau gweithio o gartref a dysgu dau blentyn ifanc, fe wnes i fagu rhywfaint o bwysau.
“Ar ôl penderfynu mai digon oedd digon, fe wnes i’r her Soffa i 5K mewn naw wythnos. Fe golles i stôn a mynd lawr o ran maint fy nillad. Roedd hefyd yn dda iawn ar gyfer fy iechyd meddwl gan fy mod yn sownd yn y tŷ drwy’r amser, ac roedd mynd i redeg yn gyfle i fi gael amser i fi fy hun.”
Rhywun arall a benderfynodd wneud yr un peth oedd Marian Jacques o Dregynon, a dechreuodd hi gymryd camau bach i wella’u hiechyd a’i lles yn ystod y pandemig. Fel Stefanie, mae hi ymhlith y 25% o bobl yn Nghymru sydd wedi bod yn gwneud rhagor o ymarfer corff eleni ac sydd wedi sylwi ar yr effaith gadarnhaol y mae wedi’i chael ar eu pwysau. Meddai’r fam i ddau:
“Yn ystod y cyfnod clo, fe gawson ni gi bach newydd oedd yn golygu, boed law neu hindda, ro’n i’n cerdded am awr bob dydd. Fe wnes i ddechrau gwneud ymarferion cryfder yn y tŷ a dechrau bwyta’n iachach. Dw i’n teimlo’n llawer gwell!
“Dw i ddim yn credu mewn bod yn rhy llym ar fy hunan, felly dw i’n dal i gael trîts o dro i dro, ond dw i wedi bod yn meddwl mwy am faeth ers dechrau’r pandemig. Mae’n bwysig gwneud yr hyn allwn ni, yn enwedig fel rhieni plant ifanc, er mwyn cadw’n hunain yn iach.”
Mewn gwirionedd, mae hanner oedolion Cymru (50%) yn dweud eu bod wedi gwneud ymdrech i fwyta’n iachach eleni, gan wneud y gorau o’u hamser gartref sydd wedi caniatáu iddyn nhw dreulio rhagor o amser yn coginio ac yn bwyta’n iach.
Fodd bynnag, mae mwy na phedwar allan o bob 10 o bobl (42%) wedi bod yn bwyta rhagor o fwydydd afiach yn ystod y cyfnod clo fel ffordd o wobrwyo eu hunain ac i godi eu calonnau, ac mae’r ffigur yma’n codi i 65% ar gyfer Cenhedlaeth Z Cymru (pobl 18-24 mlwydd oed).
Mae Beca Lyne-Pirkis, oedd yn ffefryn amlwg ar raglen Great British Bake Off yn 2013, yn gogyddes o Gymru ac yn llysgennad ar gyfer Pwysau Iach Cymru. Meddai:
“Dyw hi ddim bob amser yn hawdd ymarfer yn rheolaidd a bwyta’n iach, ac mae llawer wedi’i chael hi’n arbennig o anodd yn ystod y cyfnodau clo diweddar. Ond mae hyd yn oed newidiadau bach yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i’ch iechyd, a gall wneud i chi deimlo’n well hefyd. Mae llawer o wybodaeth a chyngor ar sut i wneud mwy o ymarfer corff, bwyta’n well a gwella’ch lles ar wefan Byw’n Iach GIG 111 Cymru."
Mae Kat Davies o Aberriw yn cynnal dosbarthiadau ffitrwydd Rikasystemz yn Sir Drefaldwyn. Dyma ei chyngor hi:
“Peidiwch â digalonni os na fyddwch chi’n sylwi ar newidiadau’n syth. Dw i wastad yn annog fy nghleientiaid i dynnu lluniau o’u cynnydd bob pythefnos. Ar ôl chwe wythnos, cymharwch eich llun cyntaf a’ch llun diweddaraf. Dechreuwch yn araf ac yn raddol. Roedd fy ngŵr dros ei bwysau ychydig flynyddoedd yn ôl a dechreuodd loncian am ddim ond 15 munud. Adeiladodd ar hyn a loncian am 30 munud, ac erbyn hyn mae’n rhedeg hanner marathonau.
“Hefyd, peidiwch â phoeni am fod yn rhy fawr i ymuno â dosbarth. Mae ganddon ni bobl o bob siâp a maint, o bob oedran a gallu. Dewch o hyd i weithgaredd rydych chi’n ei fwynhau neu rhowch gynnig ar rywbeth newydd i wneud pethau’n ddiddorol.”
Mae llawer o ddewisiadau ffordd o fyw syml a hawdd y gallwch chi eu gwneud er mwyn gwella eich hiechyd a’ch lles gan gynnwys bod yn egnïol a bwyta’n dda. Gall gwneud ychydig o newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr.
Mae gwneud ymarfer corff rheolaidd wedi profi i fod yn fanteisiol i unrhyw un sydd am gynnal ffordd iach o fyw, colli pwysau a gwella’u lefelau ffitrwydd a chefnogi eu lles meddyliol. Yn y cyfamser, mae bwyta deiet iach a chytbwys yn rhan bwysig o gynnal iechyd da, a gall eich helpu i deimlo ar eich gorau.
Mae’r ffordd rydych chi’n cyrchu gwasanaethau’r GIG wedi newid ond rydyn ni’n dal yma i chi. Drwy wirio ar-lein gan ddefnyddio GIG 111 Cymrugallwch gyrchu gwasanaethau’r GIG er mwyn cael y cymorth cywir.
Os hoffech gyngor ar sut i gymryd y camau cyntaf ar eich taith i ddilyn ffordd iachach o fyw, chwiliwch wefan GIG 111 Cymru am awgrymiadau a gwybodaeth i’ch helpu i roi dechrau arni.