Neidio i'r prif gynnwy

Anogir trigolion Powys i rannu eu barn fel rhan o ymgynghoriad Gwella Gyda'n Gilydd yn hwyrach eleni

Dywedodd Adrian Osborne, Dirprwy Gyfarwyddwr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:

“Mae cymunedau Powys a staff BIAP yn angerddol am wasanaethau iechyd, ac mae ganddyn nhw le arbennig ym mywyd ein sir.

“Ond gyda’n gilydd rydym yn wynebu rhai dewisiadau pwysig a chymhleth am y dyfodol. Poblogaeth sy'n heneiddio, baich cynyddol afiechyd, llai o bobl o oedran gweithio – mae'r holl ffactorau hyn yn golygu bod angen syniadau beiddgar.

“Mae iechyd a lles ein trigolion yn bwysig iawn i ni. Dyma pam rydym wedi sefydlu'r rhaglen Gwella Gyda'n Gilydd, gan weithio gyda staff, cleifion, cymunedau a sefydliadau partner i archwilio opsiynau posibl ar gyfer gwasanaethau diogel, o ansawdd uchel a chynaliadwy yn y dyfodol. Mae'r gwaith hwn yn ein helpu ni ddatblygu a phrofi syniadau, deall manteision a risgiau gwahanol ddulliau, ac arwain gwaith pellach i sicrhau dyfodol gwasanaethau'r GIG ym Mhowys.

“Byddai’n anghywir awgrymu bod penderfyniadau wedi’u gwneud ynghylch dyfodol gwasanaethau cymunedol ym Mhowys, neu fod unrhyw fodel gofal yn y dyfodol wedi’i gytuno. Yn hytrach, mae'n hanfodol ein bod yn cymryd yr amser i ystyried yn ofalus ystod eang o opsiynau – gan edrych ar sut rydym yn cryfhau gwasanaethau sylfaenol a chymunedol, sut

rydym yn gwella atal ac iechyd y cyhoedd, a sut rydym yn darparu gofal mewn gwelyau yn y ffordd orau bosibl ar gyfer y dyfodol.

“Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud, ac ni fydd unrhyw rai'n cael eu gwneud nes y bydd ymgynghoriad llawn ac ystyrlon wedi'i gynnal â'n staff a'r cyhoedd, yr ydym yn disgwyl iddo ddigwydd o fis Medi ymlaen. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn ddiweddarach yr haf hwn ac rydym yn annog pawb yn gryf i gymryd rhan a rhannu eu barn.”

Pam mae'r rhaglen Gwella Gyda'n Gilydd mor bwysig?

Wrth i ni edrych ymlaen at y deng mlynedd nesaf a thu hwnt, rydym yn gwybod bod mwy o bobl ym Mhowys yn byw'n hirach, yn aml gydag anghenion iechyd lluosog a mwy cymhleth. Ar yr un pryd, mae cyfran y bobl o oedran gweithio yn lleihau, sydd â goblygiadau gwirioneddol i'n gweithlu a chynaliadwyedd gwasanaethau. Rydym hefyd yn gwybod y bydd technolegau a thriniaethau newydd yn dod ar gael, a bydd angen ffocws cydlynol ar atal os ydym am atal y llanw o afiechyd sy'n peryglu gorlethu dyfodol y GIG.

Mae hyn yn cyflwyno cyfleoedd a heriau i bob un ohonom ym Mhowys. Felly, drwy ein rhaglen Gwella Gyda'n Gilydd, rydym wedi bod yn gwrando'n ofalus ar leisiau staff, cleifion, dinasyddion a sefydliadau partner i helpu i lunio dyfodol diogel a ffyniannus ar gyfer gofal iechyd yn ein sir wledig.

Mae'r adborth gan gleifion, trigolion, cymunedau a sefydliadau partner yn dangos awydd clir am gamau uchelgeisiol i ddarparu mwy o ofal yn y sir, i ddarparu mwy o ofal yng nghartrefi pobl eu hunain ac i ganolbwyntio'n gryfach ar ofal sylfaenol a chymunedol ac ar atal, fel y gall y GIG barhau i ddiwallu anghenion pobl yn y dyfodol. 

 

Beth sydd wedi digwydd hyd yn hyn?

Mae'r gwaith hwn yn canolbwyntio i ddechrau ar wasanaethau cymunedol iechyd corfforol a meddyliol oedolion. Bydd camau yn y dyfodol yn adolygu Gofal Wedi'i Gynllunio, a Gwasanaethau i Fenywod a Phlant.

Rydym yn hynod ddiolchgar i'r miloedd o leisiau sydd wedi cyfrannu at y gwaith hwn hyd yn hyn:

 

Pa syniadau sy'n cael eu hystyried?

Mae'r gwaith hwn yn canolbwyntio i ddechrau ar wasanaethau cymunedol iechyd corfforol a meddyliol oedolion. Bydd camau yn y dyfodol yn adolygu Gofal Wedi'i Gynllunio, a Gwasanaethau i Fenywod a Phlant.

Nid oes unrhyw gynlluniau o gwbl i gau unrhyw safleoedd ysbytai ym Mhowys. Ond mae'n iawn ein bod yn cymryd yr amser i ystyried yn ofalus ystod eang o opsiynau – gan edrych ar sut rydym yn cryfhau gwasanaethau sylfaenol a chymunedol, a sut rydym yn darparu gofal mewn gwelyau yn y ffordd orau bosibl ar gyfer y dyfodol.

Mae opsiynau manwl i fod i gael eu rhannu ar gyfer ymgynghoriad yn ddiweddarach eleni yn dilyn asesiad trylwyr. Mae'r opsiynau hyn yn adlewyrchu'r senarios a'r syniadau a gyflwynwyd gan staff, y cyhoedd a rhanddeiliaid - gan edrych ar sut rydym yn cryfhau gwasanaethau sylfaenol a chymunedol, sut rydym yn gwella atal ac iechyd y cyhoedd, a sut rydym yn darparu gofal mewn gwelyau yn y ffordd orau bosibl ar gyfer y dyfodol.

Yr haf diwethaf, fe wnaethom gynnal rhaglen fawr o wrando ac ymgysylltu i ystyried amrywiaeth o senarios a gyflwynwyd gan staff, y cyhoedd a rhanddeiliaid gan gynnwys:

  1. Dim newid
  2. Newidiadau a datblygiadau bach i'r ffordd rydym yn darparu gwasanaethau cymunedol iechyd corfforol a meddyliol
  3. Mwy o wasanaethau’n cael eu darparu o fewn “canolfannau rhagoriaeth” gan gynnwys mewn Canolfannau Rhanbarthol Gwledig. Byddai hyn yn golygu bod rhai o'n gwasanaethau (megis gwelyau ysbyty) yn cael eu darparu mewn llai o leoliadau nag y maent ar hyn o bryd
  4. Datblygu ac ehangu'r ystod o wasanaethau sydd ar gael gartref drwy gryfhau timau sylfaenol a chymunedol
  5. Darperir gofal cleifion mewnol, gan gynnwys gwelyau ysbyty cymunedol, y tu allan i'r sir mewn byrddau iechyd cyfagos.
  6. Darparu Ysbyty Cyffredinol Dosbarth ym Mhowys

Bryd hynny, cafodd senarios 1 a 6 eu diystyru. Nid yw "dim newid" yn opsiwn gan fod angen newid er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth iechyd yn ddiogel ac yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Ac nid oes unrhyw opsiynau diogel na ymarferol ar gyfer darparu Ysbyty Cyffredinol Dosbarth ym Mhowys.

Ers hynny, mae senario 5 hefyd wedi'i ddiystyru a bydd gwelyau ysbytai cymunedol yn parhau i gael eu darparu yn y sir.

Mae gwybodaeth lawn am y senarios a gyflwynwyd yn ystod ein hymgysylltiad cymunedol yr haf diwethaf ar gael o'n gwefan ymgysylltu Gwella Gyda'n Gilydd.

 

Sut alla i gymryd rhan nawr?

Byddem yn annog pawb yn gryf i ddarllen ac ymateb i'n Hachos dros Newid . Mae eich barn, eich profiadau a'ch syniadau yn hanfodol i'n helpu ni lunio'r atebion cywir ar gyfer y dyfodol. Gallwch rannu eich adborth drwy ysgrifennu atom yn Gwella Gyda’n Gilydd, Tŷ Glasbury, Ysbyty Bronllys, Bronllys LD3 OLY neu drwy e-bost i powys.bettertogether@wales.nhs.uk

Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer ein cylchlythyrau rheolaidd i’ch cadw’n gyfredol â’r newyddion diweddaraf yn Cofrestrwch i'n bwletinau newyddion e-bost am ddim - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Beth fydd yn digwydd nesaf?

“Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud, ac ni fydd unrhyw rai'n cael eu gwneud nes y bydd ymgynghoriad llawn ac ystyrlon wedi'i gynnal â'n staff a'r cyhoedd am ddyfodol gwasanaethau cymunedol ym Mhowys. Rydym yn disgwyl i'r ymgynghoriad hwn ddigwydd o fis Medi ymlaen a fydd yn gofyn cwestiynau pwysig fel:

  • Sut ydyn ni'n sicrhau mwy o ffocws ar atal afiechyd?
  • Sut allwn ni gryfhau gwasanaethau sylfaenol a chymunedol fel bod mwy o bobl yn cael eu cefnogi i aros yn iach yn y sir, a bod angen derbyn llai o bobl i'r ysbyty?
  • Beth yw'r ffordd gywir o ddarparu gwasanaethau sy'n seiliedig ar welyau yn y dyfodol?

Mae cynlluniau ar gyfer yr ymgynghoriad hwn yn cael eu datblygu ar hyn o bryd. Byddwn yn sicrhau bod mwy o wybodaeth yn cael ei rhannu yn ddiweddarach yr haf hwn, gyda chyfleoedd ledled y sir i drigolion ddysgu mwy a chymryd rhan. Yn y cyfamser, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyrau rheolaidd i gael y newyddion diweddaraf yn Cofrestrwch i'n bwletinau newyddion e-bost am ddim - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

 

Rhyddhawyd: 30/06/2026